Y Ffordd i Hawliau: Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Ar gefndir gwyrddlas ac oren, mae testun gwyn yn dweud: Anabledd Cymru yn cyflwyno - Y Ffordd i Hawliau: Cynhadledd Flynyddol. Dathlu cyfraniad ymgyrchwyr Hawliau Anabledd. Stadiwm Dinas Caerdydd ac ar-lein, 19eg Hydref. Mae logo AC wedi'i osod yn y gornel dde uchaf.

Arbedwch y dyddiad! Mae cynhadledd flynyddol Anabledd Cymru yn dod i Gaerdydd ar 19 Hydref 2022.

Y Ffordd i Hawliau

Ymunwch â ni yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Anabledd Cymru yn ein digwyddiad cyntaf mewn person ers dros dwy flynedd.

Mae pobl anabl wedi wynebu blynyddoedd o lymder ac does dim dianc yr heriau newydd a gyflwynir gan Covid-19 a nawr argyfwng costau byw. Serch hynny, byddwn yn achub ar y cyfle yn ein cynhadledd i amlygu a myfyrio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma o ran datblygu hawliau a chydraddoldeb anabledd yng Nghymru, yn ogystal â chynnig ysbrydoliaeth ar gyfer cyflawniad pellach.

Yn benodol, rydym yn dymuno dathlu cyfraniad hanfodol ymgyrchwyr hawliau anabledd dros y degawdau yn ogystal â darparu llwyfan i weithredwyr newydd a fydd yn arwain ein symudiad i’r dyfodol.

Felly, beth allwch chi ei ddisgwyl ar y diwrnod?

Mae gennym ni arlwy gwych o siaradwyr a fydd yn camu i’r llwyfan i feddwl yn ôl dros yr hanner can mlynedd diwethaf ac edrych ymlaen at y nesaf wrth i ni archwilio sut bydd byd ôl-bandemig yn edrych i bobl anabl. Disgwyliwch sgyrsiau rhwng actifyddion anabledd wrth i’r profiadol drosglwyddo eu doethineb i’r rhai sy’n dod i’r amlwg, a mwynhewch y cyfle i ailgysylltu â chyd-bobl anabl ar ôl mwy na dwy flynedd o gyfyngiadau. Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn rhan o ddigwyddiadau’r diwrnod.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chadeirio gan Mik Scarlet – darlledwr, newyddiadurwr, actor a cherddor, yn ogystal ag arbenigwr ym maes mynediad a chynhwysiant i bobl anabl.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a fydd yn traddodi anerchiad cloi i goroni’r hyn a fydd yn ddiwrnod cyffrous, llawn bwrlwm.

Mae cyfle i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog. Cyflwynwch unrhyw gwestiynau sydd gennych pan ofynnir i chi ar dudalen cofrestru’r digwyddiad er mwyn cael cyfle i glywed ei ateb ar y diwrnod.

Bydd hwn yn ddigwyddiad hybrid felly os na allwch ymuno â ni yn bersonol, peidiwch â phoeni, gallwch diwnio mewn ar-lein! Mae hyn er mwyn sicrhau hygyrchedd i gynulleidfa ehangach ledled Cymru.

Bydd dychwelyd i gyfarfodydd personol ynghyd â’n dathliadau 50 mlwyddiant yn gwneud hwn yn ddigwyddiad nad ydych am ei golli. Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.

Os hoffech fod yn rhan o’r dathliadau, archebwch eich lle ar Eventbrite nawr. Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!

*Gwyliwch allan am fanylion pellach a chyhoeddiadau siaradwyr.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members