Sut i wneud eich gwybodaeth yn hygyrch i’n haelodau

Ysgrifen gwyn ar gefndir gwyrddlas sy'n dweud Sut i wneud eich gwybodaeth yn hygyrch i'n haelodau. Mae darlun bach o gyfrifiadur a llygoden ar ochr chwith yr ysgrifen

Rhannu eich gwybodaeth gyda ein haelodau

Yma yn Anabledd Cymru, rydym yn derbyn llawer o geisiadau i rannu gwybodaeth gyda’n haelodau ac rydym yn hapus i wneud hynny.

Ond yn aml, nid yw’r wybodaeth a roddir yn hygyrch ac nid yw’n cael ei ddarparu mewn fformat sy’n hawdd i ni ei atgynhyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gyda hyn mewn golwg, hoffwn rannu ychydig o awgrymiadau, gan esbonio sut y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi i rannu gwybodaeth sy’n hygyrch i gynifer o bobl â phosib.

Gobeithio y bydd yn helpu!

  1. Rhowch erthygl neu bost i fyny ar eich gwefan neu dudalen Facebook fel y gallwn rannu dolen i’ch holl wybodaeth mewn un lle. Nid ydym yn ychwanegu gwybodaeth i’n gwefan ein hunain oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â’n gwaith neu ddigwyddiadau.
  2. Os ydych chi’n rhannu taflenni neu graffeg, efallai na fydd y wybodaeth destun arnynt yn hygyrch i bobl â nam golwg. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod y wybodaeth hefyd ar gael ar ffurf testun yn unig (Plain Text) neu drwy erthygl blog. Ceisiwch osgoi meintiau ffeiliau mawr, os gwelwch yn dda.
  3. Sicrhewch bod fideos yn cael eu hisdeitlo a bod sain ar gyfer unrhyw destun sy’n ymddangos ar y sgrin yn unig. Ar gyfer sain yn unig, darparwch drawsgrifiad. Gellir ddod o hyd i ragor o wybodaeth am arfer da wrth gynhyrchu cynnwys clyweledol trwy’r dolenni canlynol:

Creu fideos YouTube hygyrch – Medium

Sut i wneud eich fideos yn hygyrch a chyrraedd cynulleidfa fwy – AbilityNet

A screenshot of a tweet being composed. It shows a photo of the Disability Wales logo and there is a red arrow pointing to a button underneath that says 'Add Description.'
  1. Mae angen ychwanegu disgrifiad ‘alt-text’ ar gynnwys gweledol fel graffeg neu llun i wneud y cynnwys hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. I gael mwy o wybodaeth ar sut i ychwanegu disgrifiadau delwedd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gweler y dolenni canlynol.

Ychwanegu disgrifiadau delwedd ar Trydar

Sut i ychwanegu disgrifiadau delwedd ar Facebook

Disgrifiadau delwedd ar Instagram

Sut i ysgrifennu disgrifiad delwedd da, gan UX Collective

  1. Rhowch eich gwybodaeth mewn fersiynau Hawdd ei Ddeal (Easy Read). Gall Hawdd ei Ddeall fod o gymorth i lawer o aelodau sydd ag anawsterau dysgu. Fodd bynnag, mae angen fersiwn testun plaen ochr yn ochr â hwn o hyd ar gyfer y rhai sydd methu cyrchu ffeiliau PDF, sef beth mae Hawdd ei Ddeall yn tueddu i fod ynddo. Gallwch ddarganfod mwy am Hawdd ei Ddeall ar wefan Anabledd Dysgu Cymru.
  2. Er mwyn ein helpu i rannu ar gyfryngau cymdeithasol, gallwch ein tagio a / neu ddarparu darnau byr o wybodaeth sy’n barod ar gyfer Trydar ynghyd â dolen i ragor o wybodaeth ar eich gwefan neu’ch tudalen Facebook.
  3. Gwnewch yn glir â phwy y dylai ein haelodau gysylltu os hoffent gael mwy o wybodaeth neu ymateb i gais.
  4. Byddwch yn siwr i gynnwys eich tagiau cyfryngau cymdeithasol a’ch cyfeiriad gwefan fel ein bod ni’n gwybod ble i ddod o hyd i chi!

Gallwn ychwanegu gwybodaeth i’n cylchlythyr sy’n cael ei gyhoeddi bob yn ail fis os nad yw’r wybodaeth yn sensitif i amser, a byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth yn uniongyrchol at ein haelodau os ydym yn teimlo y bydd o fudd iddynt

Os byddwch yn rhannu manylion am ddigwyddiadau, ceisiadau am wybodaeth neu astudiaethau achos, nodwch a ellir rannu rhain ar gyfryngau cymdeithasol ai peidio neu a ydych chi’n targedu cynulleidfa benodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y gallwch wneud eich gwybodaeth yn hygyrch neu os hoffech i ni ymhelaethu ar unrhyw bwyntiau yr ydym wedi’u gwneud yma, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Yn yr un modd, os oes gennych awgrymiadau eich hun i’w rhannu, anfonwch nhw draw a gallwn ddiweddaru’r erthygl hon gyda gwybodaeth ddefnyddiol wrth inni fynd ymlaen.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members