Yn galw ein holl aelodau – Mae ein harolwg i lunio Maniffesto Anabledd Cymru 2026–2031 ar agor!
Wrth i ni edrych tuag at etholiadau Senedd 2026, mae Anabledd Cymru yn creu Maniffesto newydd ac mae angen eich llais arnom i helpu i’w lunio.
Bydd y maniffesto hwn yn cael ei ddatblygu gan ac ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) a phobl anabl yng Nghymru. Bydd y maniffesto yn nodi’r materion allweddol yr ydym am i bleidiau gwleidyddol weithredu arnynt. Bydd yn arwain ein gwaith ymgyrchu ac eiriolaeth drwy gydol tymor Senedd 2026–2031.
Beth yw maniffesto?
Datganiad cyhoeddus o’r newidiadau yr ydym am eu gweld yw maniffesto. Rydym am i’r gofynion hyn fod yn seiliedig ar fywydau go iawn, rhwystrau a dyheadau pobl anabl. Dyma ein cyfle i osod yr agenda a sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn flaenllaw ac yn ganolog mewn gwneud penderfyniadau gwleidyddol yng Nghymru.
Sut allwch chi gymryd rhan
Rydym am wybod eich 5 blaenoriaeth uchaf. Dyma’r pethau yr ydych chi’n credu sydd bwysicaf i bobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru.
Gallwch rannu eich blaenoriaethau mewn unrhyw fformat sy’n addas i chi:
- Drwy gwblhau ein harolwg
- E-bostio natalie.jarvis@disabilitywales.org mewn:
- Cymraeg neu Saesneg ysgrifenedig
- Fideo Arwyddion Iaith Prydain (BSL)
- Nodyn llais
- Eich dull cyfathrebu arferol
- Byddwch yn greadigol:
- Lluniadau, collages neu luniau
- Fideos (llafar, arwyddion neu gweledol)
- Mapiau meddwl neu graffeg
- Symbolau, celf neu adrodd straeon
Helpwch ni i ledaenu’r gair os gwelwch yn dda.
Y mwyaf o leisiau a glywn, y cryfaf a’r mwyaf cynrychioliadol fydd ein maniffesto. Rhannwch y gwahoddiad hwn:
- Gyda’ch rhwydweithiau, partneriaid a grwpiau
- Yn eich cylchlythyr neu diweddariadau misol
- Mewn cyfarfodydd, fforymau, neu ddigwyddiadau
- Ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Dweud eich dweud erbyn wythnos gyntaf mis Medi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!





