Diwrnod Coffa’r Holocost 2022

Testun gwyn ar gefndir brown sy'n dweud: Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. #DiwrnodCofiorHolocost / 27 Ionawr. Mae llun o gannwyll wedi'i chynnau wrth ymyl y testun

Heddiw yw Diwrnod Coffa’r Holocost, diwrnod i nodi 77 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a chyfle i gofio am bawb a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.

Roedd pobl anabl ymhlith y rhai gafodd eu targedu gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd, gyda channoedd o filoedd yn destun sterileiddio gorfodol. Amcangyfrifir bod chwarter miliwn o bobl anabl wedi’u lladd yn y gwersylloedd T4.

Mae heddiw yn gyfle i gofio’r pobl hynny.

Trwy’r thema eleni – ‘Un Diwrnod’, mae’r HMD Trust yn annog pawb i ddysgu o hil-laddiad a meddwl am yr hyn sydd angen i ni ei wneud heddiw i sicrhau dyfodol gwell.

“Gallwn ddefnyddio’r thema hon i’n hysgogi i godi llais pan welwn anghyfiawnder, rhagfarnau a thrais ar sail hunaniaeth.” – HMD Trust

Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost 2022, yr Un Diwrnod hwn, byddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd yn ein cymunedau, i ddysgu o’r Holocost a hil-laddiadau – ar gyfer dyfodol gwell.

Darganfyddwch fwy am y thema.

Mae’r HMD Trust yn gwahodd aelodau’r gymuned i oleuo canwyll yn eu ffenestri am 8yh heno, Ionawr 27, i:

  • i gofio y rhai a lofruddiwyd am bwy oeddynt
  • sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw

Bydd hyn yn dynodi diwedd syfrdanol i Seremoni Goffa rithwir y DU eleni ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost sy’n dechrau am 7yh. Gallwch wylio’r seremoni yma.

Mae recordiad o Seremoni Genedlaethol flynyddol Cymru eleni i goffau Diwrnod Cofio’r Holocost hefyd ar gael ar-lein ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr Holocost, rydyn ni wedi creu rhestr o ddolenni ac adnoddau isod i sicrhau bod pobl anabl yn rhan o’r cofio ac arwyddocâd y diwrnod hwn.

A crowd of wounded war veterans and other disabled people gathered beside an army tank. Tall walls enclose the space and a guard / watch tower is seen in the background

Yn anffodus, nid yw’r gweithredoedd ofnadwy o erledigaeth a ysgogwyd gan wahaniaethu wedi’u cadw ar dudalennau hanes. Felly gadewch i ni gofio’r 250,000+ o bobl anabl a gafodd eu lladd, a sefyll gyda’n gilydd yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.

Dolenni ac adnoddau

Os ydych yn ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost, anfonwch nhw atom ni. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda dolenni ac adnoddau defnyddiol.

Rhaid inni fyth anghofio.

Troseddau casineb

Ar Ddiwrnod Coffa’r Holocost, mae’n bwysicach nag erioed i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb.

Gallwch riportio troseddau casineb, gan gynnwys troseddau casineb anabledd, i Gymorth i Ddioddefwyr neu’r heddlu.

Mae Adrodd Casineb Cymru, sy’n cael ei redeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, yma i’ch cefnogi. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members