Datganiad i’r Wasg: Ymchwiliad Covid-19 y DU – 29/03/2023

Teitl mewn ysgrifen gwyn ar gefndir glas tywyll sy'n dewud Ymchwiliad Covid-19 y DU. Oddi tano mae logo'r ymchwiliad a logo Anabledd Cymru ar gefndir gwyn. Mae ysgrifen ar y dde yn dweud Gwrandawiad Rhagarweiniol Modiwl 2B - 29/03/2023 am 10yb. Bydd y Gwrandawiad yn edrych ar benderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru. Bydd AC yn annerch yr Ymchwiliad yn y Gwrandawiad Cyhoeddus i roi llais i brofiadau pobl anabl o Gymru a’u teuluoedd. Gwyliwch yn fyw ar sianel YouTube ‘UK Covid-19 Inquiry’.

Ymchwiliad COVID-19 y DU i glywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl anabl a’u teuluoedd yn ystod y pandemig

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i sefydlu i archwilio ymateb y DU i bandemig Covid-19 a’i effaith, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Cadeirir yr Ymchwiliad gan y Farwnes Heather Hallett, cyn farnwr yn y Llys Apêl. Mae gwaith yr Ymchwiliad yn cael ei arwain gan ei Gylch Gorchwyl a gyhoeddir ar y dudalen Cylch Gorchwyl.

Er mwyn caniatáu archwiliad llawn a manwl o’r holl wahanol agweddau o’r pandemig a nodir yn y Cylch Gorchwyl, mae’r Farwnes Hallett wedi penderfynu rhannu yr Ymchwiliad i mewn i fodiwlau.

Y tri modiwl a sefydlwyd hyd yma yw:

Modiwl 1 – Gwydnwch a Pharodrwydd 

Modiwl 2 – Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd y DU rhwng Ionawr 2020 a dechrau 2022

Modiwl 3 – Effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd ym mhedair cenedl y DU

Mae yna hefyd fodiwlau ychwanegol: 2A, 2B a 2C a fydd yn archwilio gwneud penderfyniadau craidd gwleidyddol Albanaidd, Cymreig a Gogledd Iwerddon rhwng Ionawr 2020 i ddechrau 2022.

Mae Anabledd Cymru (AC) ynghyd â Disability Rights UK, Disability Action NI ac Inclusion Scotland yn gyfranogwyr craidd ym Modiwl 2 a’u Modiwlau datganoledig priodol. Mae hyn yn galluogi’r sefydliadau i, ymhlith pethau eraill, gael mynediad at ddatgeliad, gwneud cyflwyniadau i’r Ymholiad ac awgrymu trywyddau holi ar gyfer tystion allweddol.

Cynhelir y Gwrandawiad Rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 2B Ddydd Mercher 29 Mawrth. Bydd yn edrych ar benderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru.

Bydd AC yn annerch yr Ymchwiliad yn y Gwrandawiad Cyhoeddus i roi llais i brofiadau pobl anabl o Gymru a’u teuluoedd.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

‘Datgelodd y pandemig anghydraddoldebau dwfn mewn cymdeithas, gyda chyfreithiau a gyflwynwyd yn flaenorol i amddiffyn hawliau pobl anabl yn methu â gwneud hynny pan oedd eu hangen fwyaf. Yng Nghymru roedd 68% o farwolaethau oherwydd Covid-19 yn cynnwys pobl anabl. Ac eto, fel y nodwyd yn yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl Covid-19, nid oedd unrhyw beth yn anochel am y gyfradd marwolaethau uchel ymhlith pobl anabl. Mae’n hanfodol felly bod Ymchwiliad Covid-19 yn clywed lleisiau pobl anabl yng Nghymru, yn gwrando ar ein tystiolaeth ac yn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.’

Bydd Gwrandawiad Modiwl 2B yn cael ei ddarlledu’n fyw ar sianel YouTube Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Nodiadau i olygyddion

1. Am ragor o wybodaeth a chyfweliadau cysylltwch â:

Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru ar 029 20887325 miranda.evans@disabilitywales.org

2. Anabledd Cymru yw’r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bob person anabl.

3. Gwefan Ymchwiliad Covid-19 y DU: https://covid19.public-inquiry.uk

4. Cynrychiolir y pedwar Sefydliad Pobl Anabl cenedlaethol, gan gynnwys Anabledd Cymru, gan Shamik Dutta, Charlotte Haworth Hird, Olivia Anness, Nazmul Hasan, Leila Mani Lundie a Rebecca Dare o Bhatt Murphy Solicitors yn cyfarwyddo Danny Friedman KC ac Anita Davies yn Matrix Chambers.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members