Datganiad i’r Wasg: Annog Pobl Anabl yng Nghymru i Sefyll Mewn Etholiad a Manteisio ar y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

I’w ryddhau ar unwaith

Mae Anabledd Cymru yn galw ar bobl anabl ledled y wlad i siapio dyfodol democratiaeth yng Nghymru, gyda chyllid ar gael i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag ymgeisio yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026 a’r etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027.

Mae Cronfa Fynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn cael ei darparu gan Anabledd Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cefnogaeth ariannol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy’n ymwneud â’u hamhariadau. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch a thechnoleg gynorthwyol.

Mae pobl anabl yn dal i gael eu tangynrychioli yn y byd gwleidyddol. Mae’r gronfa hon yn gam ymarferol tuag at newid hynny, ac yn cael gwared ar rai o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth gefnogi mynediad cyfartal at gyfranogiad democrataidd.

Yn 2020, llwyddodd Cymru i wneud hanes fel y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i lansio cronfa o’r fath ar lefel cynghorau cymuned, gan atgyfnerthu ei hymrwymiad i greu democratiaeth gynhwysol sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas. Mae’r gronfa’n parhau i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn yn y broses wleidyddol, ac yn cael yr un cyfle ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. 

Mae’r gronfa’n agored i ymgeiswyr sy’n sefyll dros unrhyw blaid wleidyddol neu fel ymgeisydd annibynnol. 

Wrth drafod lansiad y gronfa, dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru: “Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot a roddodd gefnogaeth i nifer o ymgeiswyr anabl yn etholiadau diwethaf y Senedd a’r etholiadau llywodraeth leol, mae Anabledd Cymru yn falch o allu darparu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig unwaith eto.  

“Mae rhoi’r un cyfle i bobl anabl sefyll yn yr etholiadau sydd ar y gweill yn hanfodol i ddemocratiaeth ac i gynrychiolaeth wleidyddol.  Mae’r gronfa’n chwarae rhan allweddol wrth helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth ymgyrchu yn ystod etholiad. 

“Wrth i’r Senedd ehangu a chyflwyno system bleidleisio newydd, rydym ni’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o ymgeiswyr anabl yn gwneud cais am gyllid gan y gronfa, a hynny yn ystod cyfnod cyffrous iawn yn hanes datganoli yng Nghymru.”

Ychwanegodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: “Mae ein democratiaeth ar ei chryfaf pan fo pob llais yn cael ei gynrychioli, ac mae’r fenter arbennig hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i chwalu’r rhwystrau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan lawn mewn bywyd cyhoeddus.

“Rwy’n falch iawn fod y cynllun yn cael ei weinyddu’n annibynnol gan Anabledd Cymru, gan sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael gwasanaeth diduedd a chyfrinachol.

“Rwy’n annog pob un o Aelodau’r Senedd i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun hwn er mwyn sicrhau bod cynifer o unigolion cymwys â phosibl yn gallu elwa ohono.”

Dylai pobl anabl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa fynd i wefan Anabledd Cymru neu anfon e-bost i electedofficefund@disabilitywales.org i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae pob cais yn cael ei gyflwyno’n ddienw gerbron panel o unigolion sydd â phrofiad o anabledd ac yn arbenigo ym maes gwneud addasiadau rhesymol.

Nodiadau i olygyddion

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members