Mae Anabledd Cymru yn croesawu’r drafodaeth gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd yn gynharach yr wythnos hon (Mawrth 10) ar wneud Bathodynnau Glas yn rhai gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes.
Mae’r ddeiseb hon yn tynnu sylw at y ddarpariaeth lai hysbys nad oes angen ailasesu bob amser, ac eto mae ei weithrediad anghyson ar draws awdurdodau lleol yn creu dryswch. Mae cais am wybodaeth a gynhaliwyd gan STAND Gogledd Cymru – Julie Meese wedi datgelu’r anghysondebau hyn ymhellach.
Mae’r pwyllgor bellach yn drafftio argymhellion i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gan fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan bobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl (SPA). Fel y dywedodd Luke Fletcher AS, y nod yw “crisialu sgyrsiau sydd wedi digwydd, dod â nhw ynghyd â set glir o argymhellion a llwybr clir ar gyfer gwireddu hyn.”
Rydym yn llwyr gefnogi Carolyn Thomas AS yn ei galwad am ganllawiau cliriach a hyfforddiant cynhwysfawr i awdurdodau lleol. Bydd sicrhau gweithrediad cyson a theg nid yn unig yn gwella mynediad ond hefyd yn magu hyder yn y system.
Mae’r trafodaethau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i newid ystyrlon. Rydym yn gwerthfawrogi waith parhaus y pwyllgor ac edrychwn ymlaen at yr argymhellion a fydd yn dilyn.
Gwyliwch y drafodaeth lawn ar Senedd TV.