Heddiw yw Diwrnod Cofio’r Holocost, amser i gofio’r rhai a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ochr yn ochr â’r nifer o rai eraill a erlidiwyd a’u lladdwyd gan y gyfundrefn Natsïaidd ac mewn hil-laddiadau sydd wedi digwydd ledled y byd ers hynny.
Mae eleni yn nodi 81 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, ac mae’n gyfle i fyfyrio ar bwysigrwydd cofio wrth i ni dyfu ymhellach o’r digwyddiadau hyn mewn amser.
Roedd pobl anabl ymhlith y rhai a dargedwyd gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd. Cafodd cannoedd o filoedd eu sterileiddio dan orfod, ac amcangyfrifwyd bod 250,000 o bobl anabl wedi’u llofruddio trwy raglen ‘ewthanasia’ T4. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle pwysig i gofio’r bobl hynny ac i sicrhau nad yw eu bywydau’n cael eu hanghofio.
Mae thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, ‘Pontio Cenedlaethau’, yn ein gwahodd i feddwl am sut mae cofio’n cael ei gario ymlaen. Wrth i lai o oroeswyr aros, mae cyfrifoldeb cynyddol i sicrhau bod gwybodaeth, straeon a gwersi’n cael eu trosglwyddo, nid yn unig o fewn teuluoedd, ond ar draws cymunedau a chymdeithas gyfan. Nid edrych yn ôl yn unig yw cofio, ond sut rydym yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol a’r dyfodol.
Yn rhy aml, mae hanes pobl anabl wedi cael ei wthio i’r ymylon neu ei dawelu. Mae profiadau pobl anabl yn ystod yr Holocost yn ein hatgoffa i ble y gall rhagfarn a dad-ddyneiddio arwain. Mae pontio cenedlaethau nid yn unig yn golygu trosglwyddo’r hanesion hyn ymlaen, ond cydnabod y cyfrifoldeb sy’n dod gyda nhw, i herio agweddau niweidiol a chael gwared ar y rhwystrau sy’n gwadu urddas, cydraddoldeb a pharch i bobl anabl.
Heddiw, bydd ein Prif Weithredwr yn cymryd rhan yn seremoni genedlaethol Diwrnod Cofio’r Holocost yng Nghaerdydd, gan ymuno ag eraill mewn cof a chydymdeimlad.
Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn annog pobl i oleuo cannwyll yn eu ffenestr am 8yh ar 27 Ionawr fel eiliad a rennir i gofio’r rhai a lofruddiwyd am bwy oeddent, ac i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.

Yn anffodus, nid yw’r gweithredoedd erchyll o erledigaeth a ysgogwyd gan wahaniaethu wedi’u cadw i dudalennau hanes. Felly gadewch i ni gofio’r 250,000+ o bobl anabl a laddwyd, a sefyll gyda’n gilydd yn erbyn gwahaniaethu, rhagfarn a chasineb heddiw a phob dydd.
Isod, mae rhestr o ddolenni ac adnoddau sy’n canolbwyntio ar brofiadau pobl anabl, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y cof ac yn arwyddocâd parhaus y diwrnod hwn.
Dolenni ac adnoddau
- Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost wedi esbonio mwy am sut a pham wnaeth y gyfundrefn Natsiaidd dargedu pobl anabl
- Mae BBC Ouch wedi ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin am yr Holocost a phobl anabl
- Mae’r fideo YouTube yma yn darparu mwy o wybodaeth am ‘Raglen T4’ y Natsiaid a laddodd miloedd o bobl anabl
- Mae gan yr HMD Trust hefyd ddetholiad o straeon hawdd i’w darllen, yn cynnwys stori Anne Frank.
- Roedd Anna Lehnkering yn un o’r bobl anabl cafodd ei lladd gan y gyfundrefn Natsiaidd, dyma ei stori.
- Cyhoeddodd BBC Newsround ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ganllaw llawn gwybodaeth i’r Holocost ar gyfer cynulleidfaoedd iau.Mae’n manylu ar linell amser o ddigwyddiadau, yn esbonio geiriau anodd, a llawer mwy.
- Mae The Holocaust Explained yn wefan sydd wedi’i dylunio ar gyfer ysgolion. Mae’n llawn gwybodaeth am yr Holocost mewn amrywiaeth o fformatau cynnwys
Os ydych yn ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost, anfonwch nhw atom ni. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda dolenni ac adnoddau defnyddiol.
Rhaid inni fyth anghofio.
Troseddau casineb
Ar Ddiwrnod Coffa’r Holocost, mae’n bwysicach nag erioed i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb.
Gallwch riportio troseddau casineb, gan gynnwys troseddau casineb anabledd, i Gymorth i Ddioddefwyr neu’r heddlu.
Mae Adrodd Casineb Cymru, sy’n cael ei redeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, yma i’ch cefnogi. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.





