Datganiad i’r Wasg: Anabledd Cymru a Disability Rights UK yn cyfeirio at “farwolaeth torfol a dioddefaint gwirioneddol” pobl anabl yng Nghymru yn Ymchwiliad Covid-19 y DU

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Heddiw, mae Sefydliadau Pobl Anabl (SPA), Anabledd Cymru a Disability Rights UK wedi annerch yr Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd ar y “marwolaeth dorfol a’r dioddefaint gwirioneddol” a brofwyd gan bobl anabl yng Nghymru yn ystod y pandemig a dywedodd, er gwaethaf ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r risgiau, methodd â chynllunio’n iawn ar gyfer yr argyfwng a arweiniodd at: “diffyg mynediad at fwyd ac adnoddau hanfodol, cwymp gwasanaethau iechyd, gofal a byw’n annibynnol, ac atal hawliau pobl anabl.”

Yn eu datganiad agoriadol ar gyfer Modiwl 2B o’r Ymchwiliad, sy’n canolbwyntio ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, nododd y SPA fod 68% o’r rhai a fu farw o Covid-19 yng Nghymru yn bobl anabl, sef cymhareb uwch fyth na’r 59% o farwolaethau ar draws y DU gyfan. Fe wnaethant hefyd ddyfynnu ystadegau’r llywodraeth a oedd yn dangos bod pobl ag Anableddau Dysgu, pan fo oedran yn cael ei dynnu allan o’r hafaliad, yn dal i fod rhwng 3 ac 8 gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid yng Nghymru na phobl di-anabl.

Roedd y SPA yn cwestiynu penderfyniadau Llywodraeth Cymru i ohirio gosod profion mewn cartrefi gofal a ddigwyddodd yn hwyrach yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU ac, yn syfrdanol, mae hyd yn oed Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyfaddef yn ei dystiolaeth i’r ymchwiliad na all warantu bod pob marwolaeth mewn cartrefi gofal wedi cael eu hysbysu iddynt.

Tra’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn unigryw wrth gomisiynu’r adroddiad Drws ar Glo, a arweinwyd gan Sefydliadau Pobl Anabl, a bod ansawdd ei hymgysylltiad â phobl Anabl yn ‘sylfaenol wahanol’ i’r sefyllfa dlawd yn San Steffan, beirniadodd y SPA y penderfyniad i gydsynio i basio Rhan 2, Atod. 12 o Ddeddf Coronafeirws 2020.

Roeddent yn tynnu sylw at lythyr a anfonwyd gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2020, a oedd yn cwyno: “fe wnaethom basio Deddf sy’n nodi hawliau mwyaf sylfaenol pobl anabl fel rhywbeth gellir ei ddiffodd pan fo’n gyfleus i wneud hynny.”

Amlygodd y SPA y ffaith y gofynnwyd yn amhriodol i bobl anabl ledled Cymru gydsynio i hysbysiadau Peidiwch â Dadebru fel y gellid targedu adnoddau iechyd at y rhai a ystyriwyd yn “ifanc ac yn heini” fel y nodwyd mewn adroddiad gan y BBC ym mis Ebrill 2020, neu bod yr hysbysiadau hyn wedi cael eu gosod heb ganiatâd.

Yn olaf, galwodd y Sefydliadau Pobl Anabl am Weinidog penodol ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru, i gydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a phwysleisiodd yr angen dybryd am ailddosbarthu economaidd i bobl anabl.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Mae Gwrandawiadau Cyhoeddus Ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru yn ein galluogi i dynnu sylw at realiti llwm bywyd i bobl anabl yn ystod y pandemig: yr unigrwydd a’r dryswch yn ogystal â cholli pŵer, llais a dinasyddiaeth.

Nid oedd dim byd yn anochel am y 68% o farwolaethau o COVID-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru. Fel y datgelodd yr Adroddiad Drws ar Glo, ffactorau cymdeithasol a gyfrannodd at yr ystadegyn difrifol hwn, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, a sefydliadoli ynghyd â diffyg PPE, gwasanaethau gwael ac anghyson, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd.

Rydym am gael atebion ynghylch pam yr oedd bywydau pobl anabl yn ymddangos mor wariadwy ac ar ben hynny i sicrhau na fyddwn byth eto’n wynebu’r ‘farwolaeth dorfol a’r dioddefaint go iawn” a brofwyd gan gynifer yn ystod y pandemig.

Nodiadau

Anabledd Cymru (AC) yw’r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy’n ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.

Disability Rights UK yw prif sefydliad y DU sy’n cael ei arwain gan, ei redeg gan ac sy’n gweithio ar gyfer pobl anabl.

Ysgrifennwyd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021) gan yr Athro Debbie Foster ar y cyd â Grŵp Llywio Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl ac unigolion anabl. Cadeirydd y grŵp oedd Prif Weithredwr AC, Rhian Davies: Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 | LLYW.CYMRU

Mae erthygl y BBC ar ddefnyddio hysbysiadau peidiwch â cheisio dadebru (DNAR) yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-52117814

Cynrychiolir AC a DR UK gan dîm yn Bhatt Murphy dan arweiniad Shamik Dutta a Charlotte Haworth-Hird a’r cwnsler Danny Friedman KC, Anita Davies a Danielle Manson yn Matrix Chambers.

Bydd Modiwl 2b Ymchwiliad Covid-19 yn ymchwilio ac yn gwneud argymhellion ynghylch penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phandemig Covid-19.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members