Ymunwch â See Around Britain fel Ymchwilydd Gweinyddol a Marchnata rhan-amser

Green lines form an oval shape around a red map of the United Kingdom.

Mae See Around Britain yn chwilio am Ymchwilydd Gweinyddol a Marchnata Rhan-amser yng Ngorllewin Cymru, gan gynnwys Abertawe, a Chastell Nedd Port Talbot

Mae See Around Britain (SAB) yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan bobl anabl ger Caerfyrddin. Mae’n rhedeg gwefan ac ap sy’n cynnig gwybodaeth i drigolion a thwristiaid am nifer o atyniadau a mannau o ddiddordeb, a hefyd lleoliadau fel swyddfeydd post, siopau a busnesau lleol y maent yn eu defnyddio bob dydd, ledled y DU ac Ewrop.

Mae’r Ap yn helpu unigolion i benderfynu a yw lleoliad yn addas ar gyfer eu hanghenion, yn enwedig ymwelwyr anabl. Drwy gynnal ei ansawdd uchel o olygu, rhagwelir y bydd SAB yn cael ei ddefnyddio cymaint â Wicipedia. Ewch i’r wefan i ddarganfod mwy am waith SAB. 


Gallwch chi fod yn rhan o ddyfodol cyffrous See Around Britain trwy ymgeisio i ymuno â’r tîm fel Ymchwilydd Gweinyddol a Marchnata rhan-amser!

Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Sylfaenydd i gynorthwyo gydag ystod o dasgau gweinyddol. Byddwch yn defnyddio eich menter i ehangu ymwybyddiaeth o’r elusen trwy hyrwyddo ei fuddion, cynyddu cyfranogiad gwirfoddolwyr, cynyddu ymgysylltiad â’r wefan ac ymweld â busnesau lleol i sicrhau hysbysebion a nawdd drwy gynnal arolwg o leoliadau lleol ar y Stryd Fawr.

Byddwch yn gweithio o gartref ond yn teithio’n rheolaidd ledled Gorllewin Cymru. Byddwch yn cyfathrebu â’r Sylfaenydd trwy e-bost, galwadau Skype, a chyfarfodydd wyneb-yn-wyneb.

Mae hon yn swydd rhan-amser gydag o leiaf 12 awr yn hunangyflogedig am £12 yr awr i ddechrau, gyda’r potensial i gynyddu oriau dros amser. Mae’r oriau yn hyblyg i weithio o amgylch ymrwymiadau presennol ymgeiswyr.

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu’r rhesymau pam eich bod yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd hon at marg.mcniel@gmail.com.Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu Strategaeth Hysbysebu a Marchnata gyda graddfa o gostau hysbysebu ar-lein, ar ôl astudio gwefan SAB.

Dyddiad cau: cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members