Y Tasglu Hawliau Anabledd: Diweddariad mis Hydref

DW 50th anniversary logo

Ymrwymodd y Prif Weinidog i sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd i Gymru yn nhymor newydd y Senedd. Mae’r Tasglu yn cael ei gyd-gadeirio gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, a’r Athro Debbie Foster, awdur yr Adroddiad Drws ar Glo. Mae’n ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, data a thystiolaeth berthnasol arall a bydd yn goruchwylio datblygiad cynllun gweithredu i leihau effeithiau niweidiol pandemig Covid-19 ar bobl anabl.

Wrth siarad ar arwyddocâd y Tasglu, dywedodd Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies:

“Mae’r Tasglu Hawliau Anabledd yn gyfle mawr i ymgorffori egwyddorion model cymdeithasol, cydgynhyrchu a diwylliant o gynhwysiant ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach. Mae ffurfio Gweithgorau yn ddatblygiad i’w groesawu wrth ddod â ffocws i faterion penodol lle mae pobl anabl yn wynebu rhwystrau i gyfranogiad llawn megis gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a thai yn ogystal â darparu fforwm ar gyfer nodi camau ymarferol a fydd yn arwain at weithredu hawliau anabledd mewn bywyd bob dydd. Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau’r Gweithgor Byw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol i ateb yr her hon.”

Mae’r Tasglu Hawliau Anabledd wedi cynnal ei bedwerydd cyfarfod yn ddiweddar ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2021. Roedd yr Agenda yn cynnwys adroddiadau gan Gadeiryddion tri o’r Gweithgorau a sefydlwyd i ddrafftio argymhellion ar faterion penodol yn yr Adroddiad Drws ar Glo:

  • Yr Athro Debbie Foster: Gweithgor Ymgorffori a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (Ledled Cymru).
  • Rhian Davies: Byw’n Annibynnol: Gweithgor Gofal Cymdeithasol
  • Natasha Hirst: Gweithgor Mynediad i Wasanaethau (gan gynnwys Cyfathrebu a Thechnoleg).

Roedd eitemau ychwanegol yn cynnwys diweddariad gan Ysgrifenyddiaeth y Tasglu sy’n cael ei harwain gan Gill Huws-John ac adroddiad ar waith Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru sydd newydd ei sefydlu.

Mae cyfleoedd o hyd i gymryd rhan yng Ngweithgorau Tasglu. Yn ogystal â’r tri grŵp a restrir uchod, mae eraill i’w sefydlu yn cynnwys:

  • Byw’n Annibynnol: Iechyd a Lles – i ddechrau ym mis Tachwedd 2022 dan gadeiryddiaeth Willow Holloway
  • Tai Fforddiadwy a Hygyrch: i ddechrau Gwanwyn 2023 dan gadeiryddiaeth Graham Findlay
  • Plant a Phobl Ifanc: i ddechrau Gwanwyn 2023, cadeirydd i’w gadarnhau
  • Cyflogaeth ac Incwm: i ddechrau Gwanwyn 2023 dan gadeiryddiaeth yr Athro Debbie Foster
  • Teithio: i ddechrau Gwanwyn 2023 dan gadeiryddiaeth Andrea Gordon

I gael rhagor o wybodaeth am y Tasglu ac i fynegi diddordeb mewn ymuno â Gweithgor, cysylltwch â:

DisabilityRightsTaskforce@gov.wales

Mae holl aelodau’r Tasglu a’r Gweithgorau yn derbyn hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd sy’n cael ei gydlynu gan Anabledd Cymru a’i ddarparu gan Mik Scarlet.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members