Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Llun o pob un o'r hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl uwchben ysgrifen du ar gefndir gwyn sy'n dweud Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Gadewch i ni siarad am gyflogaeth pobl anabl.

Yn draddodiadol, mae cyfraddau cyflogaeth yn sylweddol is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl.

Mae ffigurau hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn 50%, o gymharu ag 81% o bobl nad ydynt yn anabl.

Mae angen gweithredu i gau’r bwlch cyflogaeth hwn.

O gofio bod 420,000 o bobl anabl rhwng 16 a 64 oed yn byw yng Nghymru yn 2020* mae cronfa dalent sylweddol heb ei defnyddio ar gael i berchnogion busnes sydd â swyddi gwag i’w llenwi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a fydd yn cydweithio â chyflogwyr drwy Gymru i gynyddu ymwybyddiaeth o’r talent a’r sgiliau sydd gan bobl anabl.

Daw’r Hyrwyddwyr o gefndiroedd amrywiol, ond mae gan bob un brofiad o weithio fel person anabl a rhoi cymorth i fusnesau, ac nid yw hyn, yn aml, mor heriol a drud ac y mae busnesau yn ei ofni.

Beth yw e?

Bydd yr Hyrwyddwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorwyr Cyflogaeth Anabl o fewn gwasanaeth Busnes Cymru i helpu cyflogwyr i addasu eu harferion recriwtio ar gyfer eu gweithlu, ac i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw eu hunain a’u gweithwyr. Byddwch ar eich ennill, ac mae’r manteision i chi fel cyflogwr yn ddiddiwedd.

Mae hyn i gyd yn rhad ac am ddim ac yn unigryw i gyflogwyr yng Nghymru. P’un a yw cyflogwr yn edrych am waed a thalent newydd i’r tîm, cadw neu ailhyfforddi staff presennol sydd wedi dod yn anabl, neu eisiau sicrhau bod eu gweithlu a’u polisïau AD yn gynhwysol – gall yr Hyrwyddwyr helpu.

Mae croeso i unrhyw fusnes yng Nghymru gysylltu â’r Hyrwyddwyr os oes ganddynt ddiddordeb mewn cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu a’u bod am ganfod rhagor am y llu o fanteision sy’n dod yn sgil cyflogi pobl anabl a’r gefnogaeth sydd ar gael: PCPA@llyw.cymru

Fel arall, gallwch ddarganfod mwy ar wefan Busnes Cymru.

* Cymerwyd data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sy’n casglu data ar anabledd, fel y’i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Llyfrynnau a Chanllawiau

Cymru sy’n fwy cyfartal: Canllawiau ymarferol i gyflogwyr ynglŷn â chyflogi pobl anabl (PDF Hawdd ei ddeall)

Llyfryn: Cymorth sgiliau a recriwtio i gyflogwyr (Dolen)

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members