Anabledd Cymru yn croesawu’r dull dimensiwn dynol a gaiff sylw yn Adolygiad Timms ond yn codi pryderon ynghylch yr agenda ddiwygio ehangach

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

DATGANIAD I’R WASG

I’w Ryddhau ar Unwaith 24 Tachwedd 2026

Mae Anabledd Cymru yn cydnabod faint o waith a gynhaliwyd gan Adolygiad Timms ac yn croesawu’r ymdrechion clir i gyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â phobl anabl trwy gydol y broses.

Cyfrannodd 40,000 o bobl o bob rhan o’r DU at yr adolygiad, a gwnaethpwyd ymdrech i gynnwys pobl anabl yn y gwaith o lunio argymhellion. Mae Anabledd Cymru wedi chwarae rhan weithredol drwy gydol y broses gan gynrychioli barn y Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau yn ogystal ag unigolion anabl. 

Rydym ni’n cytuno’n llwyr â’r canfyddiad yn Adroddiad Terfynol Adolygiad Timms nad yw PIP yn addas i’r diben a bod angen ychwanegu dimensiwn dynol ar frys at y broses yn ogystal â chroesawu argymhellion penodol fel :

  • Cydnabod y dylai PIP barhau i fod yn fudd-dal arian heb brawf modd.
  • Y gwrthwynebiad chwyrn at y cynnig i roi talebau sydd wedi cael ei awgrymu yn y cyfryngau.
  • Cael gwared ar yr angen i ailasesu pobl sydd â chyflyrau cydol oes difrifol. 

Rydym ni’n credu fod dull gweithredu Timms sydd wedi’i gyd-gynhyrchu yn cymharu’n gadarnhaol ag adolygiadau eraill sydd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar. Er enghraifft, roedd adolygiad Milburn yn defnyddio dull gweithredu mwy traddodiadol o’r brig i lawr, gan ddibynnu’n llwyr ar gasglu tystiolaeth yn hytrach na rhoi lleisiau pobl anabl ar waith mewn cynigion. Rydym ni’n credu y dylai adolygiadau yn y dyfodol adeiladu ar y dull cyd-gynhyrchu sydd wedi’i fabwysiadu gan Adolygiad Timms.

Er ein bod yn croesawu rhai agweddau ar yr adolygiad, rydym yn dal yn bryderus iawn am y cyd-destun ehangach o ran polisi a’r sefyllfa ariannol y bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried ynddi. Er nad yw’r materion hyn yn gyfrifoldeb ar Adolygiad Timms, mae pryderon yn parhau ynghylch: 

  • Y cyfyngiadau a ddaw wrth weithredu o fewn cyfyngiadau gwariant sydd wedi’u pennu ymlaen llaw a dim cynnydd yn y gyllideb ar gyfer newidiadau.
  • Dyfodol cymorth anabledd ochr yn ochr â chynigion sy’n deillio o adolygiadau eraill.
  • Effaith gronnus yr argymhellion a geir yn adolygiadau Timms, Milburn a Mayfield.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Nid yr hyn sy’n ymddangos yn Adolygiad Timms yw’r cwestiwn pwysig nawr, ond yr hyn fydd Gweinidogion yn ei roi ar waith yn y Papur Gwyn arfaethedig a’r ddeddfwriaeth ddilynol. Mae argymhellion yn yr adroddiad hwn a fydd yn cael eu croesawu gan lawer o bobl anabl, yn enwedig o ran gwarchod cymorth ariannol a lleihau ailasesiadau diangen.

Ein pryder ni yw y bydd cynigion allweddol i ychwanegu dimensiwn dynol at y broses yn cael eu cysgodi gan yr agenda ddiwygio ehangach i wneud toriadau lles, yn enwedig pan fo’r toriadau hynny yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl iau, pobl niwrowahanol a phobl â chyflyrau iechyd meddwl.

Mae Anabledd Cymru yn credu y dylid rhoi cymorth yn seiliedig ar angen yn hytrach nag oedran, ac y dylai’r cymorth hwnnw adlewyrchu costau byw gwirioneddol person anabl.  Drwy ein gwaith parhaus gyda’r sefydliadau sy’n aelodau, byddwn ni’n mynd ati i ddatblygu ymateb ar y cyd yng Nghymru gan sicrhau bod lleisiau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu clywed yn glir gan Lywodraeth y DU”.

NODIADAU I OLYGYDDION

Anabledd Cymru yw’r corff aelodaeth cenedlaethol i Sefydliadau Pobl Anabl sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau i bobl anabl yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw cymdeithas gynhwysol, deg a dirwystr.

Cynhaliodd Anabledd Cymru grwpiau ffocws ac arolygon gan ddefnyddio’r data i ymateb i broses ymgynghori a chasglu tystiolaeth Timms. Fe wnaethom hefyd hwyluso ‘gweithdai mewn bocs’; un ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a’r llall ar gyfer aelodau annibynnol, yn ogystal â rhoi tystiolaeth mewn digwyddiadau bwrdd crwn gyda Phanel Timms.


I gael cyfweliadau, astudiaethau achos neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Natalie.jarvis@disabilitywales.org

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members