Er cof am Graham Findlay

Graham Findlay in a thoughtful pose as a speaker at DW's 50th anniversary conference. His left hand rests under his chin and he looks as if he's listening intently to a contribution from the audience.

Gyda chalon drom yr ydym yn rhannu’r newyddion trist am farwolaeth Graham Findlay, yn dilyn salwch hirdymor.

Roedd Graham yn ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl, a bu’n gweithio fel Swyddog Mynediad gydag Anabledd Cymru am flynyddoedd lawer. Bu’n gweithio hefyd yn Sefydliad Tai Siartredig Cymru, ac yn fwy diweddar yn Scope. Roedd Graham wedi cymhwyso fel Archwilydd Mynediad, ac roedd yn arbenigo ym maes polisi tai.

Ddiwedd y nawdegau, sefydlodd Brosiect Tai Hygyrch Caerdydd a’r Fro, ac ef oedd yn arwain menter ‘Mwy na Ramp’ Anabledd Cymru. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i’r ddarpariaeth tai hygyrch yng Nghymru ac fe arweiniodd at gynnal prosiect peilot oedd yn cynghori ar dai hygyrch yn ne-ddwyrain Cymru.

Ar ôl gadael cyflogaeth Anabledd Cymru yn 2008, parhaodd Graham i fod yn gefnogwr brwd i’r sefydliad. Roedd yn gyd-gadeirydd ar ein Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar DRILL (Ymchwil Anabledd ar Fyw a Dysgu’n Annibynnol) ac roedd yn gyfrannydd gwadd yn ein Cynhadledd i Ddathlu Hanner Canmlwyddiant.

Yn ogystal â bod yn arbenigwr ym maes polisi a deddfwriaeth, roedd Graham yn awdur dawnus ac yn hwylusydd rhagorol. Roedd ganddo synnwyr digrifwch da ac roedd yn gydweithiwr cefnogol oedd bob amser yn annog ymgyrchwyr anabl iau. Roedd ei gyfraniad i hawliau pobl anabl, yn enwedig ym maes tai hygyrch, yn aruthrol. Bydd colled enfawr ar ei ôl.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Cefais y fraint o adnabod a gweithio gyda Graham am dros dri degawd, ac mae ei farwolaeth yn golled fawr i’n cymuned. Roedd Graham yn rhan flaenllaw o’r mudiad hawliau pobl anabl yng Nghymru, ac roedd ei waith yn cynnwys cynnal yr ymgyrchoedd Hawliau Nawr! yn y nawdegau, a arweiniodd at gyflwyno deddfwriaeth ar wahaniaethu ar sail anabledd, hyrwyddo dyluniad cynhwysol mewn tai, ac arwain gwaith cyd-gynhyrchu.

Roedd ei ymrwymiad hirsefydlog i Anabledd Cymru yn cael ei werthfawrogi’n fawr, a dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd yn dangos diddordeb yn lansiad ein Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth. Byddaf yn trysori’r sgwrs honno. Mae ein dyled yn fawr iddo am ei ymroddiad a’i frwdfrydedd bob amser, er ei fod yntau yn sicr wedi wynebu heriau. Rydym yn cydymdeimlo’n fawr â’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod digalon hwn”.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members