I’w ryddhau ar unwaith
Mae pobl anabl ledled Cymru sy’n bwriadu sefyll yn etholiadau’r Senedd eleni yn cael eu hannog i wneud cais yn gynnar i’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ar gael mewn da bryd.
Er mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau ar gyfer etholiadau’r Senedd yw 9 Ebrill, gellir gwneud cais i’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru nawr. Gweinyddir y Gronfa gan Anabledd Cymru.
Dywedodd Jessica Hatchett, Swyddog Cyfranogiad Dinesig yn Anabledd Cymru: “Weithiau, gall dod o hyd i’r gefnogaeth fwyaf priodol i ymgeiswyr gymryd mwy o amser na’r disgwyl. Po gynharaf y derbynnir cais, y mwyaf o amser sydd ar gael i siarad ag ymgeisydd, i ddeall ei anghenion ac i roi’r cymorth yn ei le. Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw rhuthro’r broses a sylweddoli nad yw’r trefniadau’n gweithio cystal ag y dylent.”
Mae’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn rhoi cymorth ariannol tuag at gostau sy’n ymwneud ag amhariadau i ymgeiswyr anabl sy’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026 ac yn etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch a thechnoleg gynorthwyol.
Yn 2020, llwyddodd Cymru i wneud hanes fel y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i lansio cronfa o’r fath ar lefel cynghorau cymuned, gan atgyfnerthu ei hymrwymiad i greu democratiaeth gynhwysol sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas. Mae’r gronfa’n sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn yn y broses wleidyddol, ac yn cael yr un cyfle ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl.
Mae’r gronfa’n agored i ymgeiswyr sy’n sefyll dros unrhyw blaid wleidyddol neu fel ymgeisydd annibynnol.
Dylai pobl anabl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa fynd i wefan Anabledd Cymru neu anfon e-bost i electedofficefund@disabilitywales.org i gael rhagor o wybodaeth.
Mae pob cais yn cael ei gyflwyno’n ddienw gerbron panel o unigolion sydd â phrofiad o anabledd ac yn arbenigo ym maes gwneud addasiadau rhesymol.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Anabledd Cymru yw corff aelodaeth cenedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau i bobl anabl yng Nghymru.
- Mae fideos gwybodaeth gyda dehongliad BSL ar gael yn: https://youtu.be/8rccQb52Cwg neu https://youtu.be/BPE1S5CWvvQ
Gellir trefnu cyfweliadau ag ymgeiswyr blaenorol ar gais. Ymholiadau gan y cyfryngau i jessica.hatchett@disabilitywales.org.





