Blwyddyn dan sylw: Adroddiad y Prif Weithredwr 2024/25

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Mae wedi bod yn flwyddyn o newid a myfyrio yma yn Anabledd Cymru wrth i ni weithio i ddatblygu ein Cynllun Strategol newydd.

Roeddem yn falch i lansio’r cynllun yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar ac yn derbyn ymateb mor gadarnhaol i’n cenhadaeth a’n gweledigaeth newydd, a fydd yn arwain ein gwaith yn y blynyddoedd i ddod.

Byddwn yn dod â’r strategaeth lawn i’n gwefan yn fuan, ond cyn hynny, gadewch inni gymryd eiliad i fyfyrio ar y gweithgareddau a’r cyflawniadau a luniodd flwyddyn ariannol 2024/25.

Yma, mae ein Prif Weithredwr, Rhian Davies, yn rhannu ei hadroddiad.

Adroddiad y Prif Weithredwr

Yn ystod blwyddyn heriol arall ar gyfer pobl anabl pan fo’r argyfwng costau byw parhaus wedi gwaethygu tlodi ac anghydraddoldeb hirdymor, yn Anabledd Cymru, gwnaethom barhau i fynd ar drywydd ein nod o ddylanwadu ar y rhai sy’n llunio polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar bob lefel ar ran aelodau. 

Gwnaethom wrthwynebu cynigion brawychus Llywodraeth Cymru i gynyddu uchafswm y taliad gofal wythnosol o £100 i £125 yr wythnos yn frwd. O’n Hadroddiad Prin yn Goroesi (2023), roeddem yn gwybod bod y rheini sy’n derbyn gofal cymdeithasol eisoes yn cael trafferth talu eu taliadau ochr yn ochr â biliau hanfodol ar gyfer bwyta a gwresogi. Drwy arolwg o’r aelodau a grwpiau ffocws, gwnaethom adeiladu achos cryf yn erbyn y cynigion.

Roedd hyn yn cynnwys herio’r myth mai dim ond pobl anabl cyfoethog sy’n gorfod talu’r uchafswm pan fo derbynwyr sy’n dibynnu’n gyfan gwbl ar fudd-daliadau yn talu’r swm llawn mewn gwirionedd. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, gwnaethom gwrdd â Gweinidogion ac Aelodau’r Senedd, a chysylltu â’r cyfryngau.

Bu’r ymgyrch yn werth y gwaith: gan gydnabod effaith enbyd cynyddu’r taliadau, cafodd y Gweinidogion wared ar eu cynigion. Yn ogystal, gwnaethant gydnabod yr anghysondeb mewn arferion codi tâl ledled Cymru a chyhoeddasant eu bwriad i gynnal arolwg cenedlaethol. Roedd grym llais profiad bywyd yn amlwg ac roedd Anabledd Cymru yn falch o chwarae ei ran mewn sicrhau bod hyn yn cael ei glywed ar y lefel uchaf.  

Graffeg o'r enw Ymgyrch lwyddiannus. Mae wedi'i rannu'n dair colofn, y canol â chefndir gwyn a'r ddwy ar y naill ochr a'r llall yn lliw logo glas AC. Mae'r golofn gyntaf yn nodi: Gwnaeth eich llais wahaniaeth. Mae'r golofn ganol yn dweud 'Dim cynnydd yn y tâl gofal cymdeithasol wythnosol uchaf', ac mae'r golofn olaf yn dweud Gwnaeth eich llais y gwahaniaeth. Mae'r testun o dan y colofnau'n darllen: Dim byd Amdanom Ni Hebddon Ni.

Parhaodd Anabledd Cymru i gymryd rhan weithredol yn y Tasglu Hawliau Anabledd gan gynnwys bod yn aelod o nifer o weithgorau. Ar ôl darparu hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol i holl gyfranogwyr y Tasglu, roeddem yn falch o gyflwyno dwy sesiwn i aelodau’r Cabinet, gan gynnwys y Prif Weinidog.

Credir mai dyma’r tro cyntaf i hyfforddiant o’r fath gael ei ddarparu yn y DU, a darparodd gyfle heb ei ail i drafod yn uniongyrchol â Gweinidogion arwyddocâd y Model Cymdeithasol o Anabledd yn hanes ymgyrch pobl anabl dros hawliau a pham y mae’n rhaid i fynd i’r afael â rhwystrau mewn cymdeithas fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.  

Graffeg o'r enw Dylanwadu Llwyddiannus. Mae wedi'i rannu'n dair colofn. Mae'r golofn ganol yn wyn gyda'r ddwy ar y naill ochr a'r llall iddi yn lliw logo glas AC. Mae'r golofn gyntaf yn nodi: Lansiwyd pecyn cymorth ar-lein. Mae'r golofn ganol yn dweud: Hyfforddiant wedi'i ddarparu i aelodau'r Cabinet. Ac mae'r golofn olaf yn dangos tudalen flaen Pecyn Cymorth y Model Cymdeithasol gyda thestun oddi tano yn dweud: Pecyn Cymorth wed'i rannu'n eang. O dan y colofnau mae llinell sy'n darllen 'Hyrwyddo'r Model Cymdeithasol o Anabledd'.

Er ein bod yn pryderu am yr oedi cyn cyhoeddi’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft, gwnaethom groesawu’r newyddion ynghylch y bwriad arfaethedig i sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol.

Ar ôl lobïo am Fwrdd o’r fath, i ddarparu gwaith craffu ac atebolrwydd hanfodol ar gyfer y Cynllun unwaith y bydd wedi’i gyhoeddi, roeddem wrth ein boddau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, wedi cyhoeddi’r cynnig yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Er gwaethaf y cyd-destun heriol, gwnaethom barhau i gyfrannu at amcan Anabledd Cymru i ddatblygu a chefnogi gwaith Sefydliadau Pobl Anabl. Roedd hyn yn cynnwys darparu amrywiaeth o fentrau sy’n datblygu sgiliau a hyder pobl anabl, y mae nifer ohonynt yn chwarae rôl weithredol mewn sefydliadau o’r fath. 

Daeth y Rhaglen Fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal lwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau i ben gyda dathliad ysbrydoledig o gyflawniadau’r mentorai. Fe’i darparwyd mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, EYST a Stonewall, ac mae wedi galluogi nifer o fentorai, gan gynnwys o garfannau Anabledd Cymru, i sicrhau safleoedd ar Fyrddau, cael eu hethol i swyddi neu wneud cynnydd o ran nodau personol eraill.

Roeddem wrth ein boddau bod rhagor o gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau gan y bartneriaeth i gynnal ail raglen.  

Gan adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig beilot, gwobrwywyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i Anabledd Cymru i sefydlu’r Prosiect Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.

Fe’i lansiwyd mewn digwyddiad bywiog ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, ac mae’n darparu cyfleoedd rhwydweithio i bobl anabl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth gan gynnwys sefyll am swydd etholedig.

Ar ben hynny, mae’n ceisio gwneud gwleidyddiaeth yn fwy cynhwysol a hygyrch drwy ddatblygu adnoddau fel y Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth a Phecyn Cymorth ar gyfer ymgeiswyr anabl.

Gydag etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol ar y gorwel, rydym yn edrych ymlaen at weld pobl anabl yn cymryd lle amlwg ymysg yr ymgeiswyr sy’n sefyll ledled Cymru. 

Mae cyfathrebu’n effeithiol ag aelodau a rhanddeiliaid yn parhau i fod yn agwedd bwysig ar ein gwaith dylanwadu a’n cefnogaeth ar gyfer sefydliadau pobl anabl. Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau, gan gynnwys y Pecyn Cymorth Model Cymdeithasol poblogaidd a lansiwyd yn ystod y flwyddyn.

Roeddem yn falch o weld cynnydd sylweddol mewn traffig gyda 100,000 o edrychiadau ychwanegol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Gwnaeth negeseuon dyddiol ar draws amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Anabledd Cymru, yn cynnwys newyddion, cyfleoedd a diweddariadau, ddenu mwy nag 800 o ddilynwyr newydd, gan fynd â ni i dros 21,000 o ddilynwyr a chysylltwyd â chyfanswm o 367,400 o bobl.

Graffeg yn manylu effaith AC ar y cyfryngau cymdeithasol. 800 o ddilynwyr newydd. 21,000 o gyfanswm dilynwyr. Cyrhaeddiad o 367,400.

Daeth yr argyfwng costau byw â’i heriau ei hunan i Anabledd Cymru ac yn dilyn toriadau yn ein cyllid, bu’n rhaid i ni gynnal rhaglen newid i ailgynllunio ac ailddatblygu’r sefydliad. I gwrdd â’n hamcan o arwain a datblygu sefydliad effeithiol a chynaliadwy, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd a bu cyfnodau anodd.

Gwnaethom ddechrau ar arolwg strategol ac rydym yn gwerthfawrogi nifer yr aelodau a ymatebodd i’n harolwg, a helpodd i hysbysu’r broses yn fawr. Rydym yn edrych ymlaen at rannu canlyniad yr arolwg sydd hefyd wedi cynnwys staff a chyfarwyddwyr sydd â phrofiad gwerthfawr o Ymddiriedolaeth Cranfield.

Graffeg o'r enw Effaith, wedi'i rannu'n dair colofn. Mae gan y cyntaf ysgrifen gwyn ar gefndir glas sy'n darllen: Lansiwyd Adolygiad Strategol Anabledd Cymru. Mae gan y golofn ganol ysgrifen ddu ar gefndir gwyn sy'n dweud: Cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Cranfield. Ac mae gan y drydedd golofn ysgrifen wen ar gefndir glas sy'n darllen: Ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Wrth geisio sicrhau dyfodol cynaliadwy yn ariannol ar gyfer Anabledd Cymru, bu’r gefnogaeth gan y cyllidwyr Moondance Foundation a Chymdeithas Dai Wales and West yn werthfawr, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt am y rhodd a adawyd i ni gan ein ffrind a’n haelod annwyl, Mike Jones. 

Fel bob amser, rydym yn diolch i’n Cyfarwyddwyr ymroddedig am eu cyngor doeth ac i’n staff anhygoel am eu gwaith caled di-ildio a’u brwdfrydedd beth bynnag fo’r heriau. 

Rhian Davies

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members