Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth Becky yn ddiweddar ar ôl brwydr ddewr yn erbyn math prin o ganser.
Ymunodd Becky ag Anabledd Cymru yn 2014, lle bu’n arwain datblygiad ein prosiect cydweithredol taliadau uniongyrchol. Ni chymerodd yn hir i Becky ffitio i mewn gyda’r tîm – cyffyrddodd ei chynhesrwydd, ei hiwmor, ei hegni a’i gwaith caled â ni i gyd.
Roedd ymrwymiad Becky i hawliau pobl anabl yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Roedd hi’n rhannu gwerthoedd y sefydliad ac yn ymdrechu am newid cadarnhaol ym mywydau pobl anabl. Roeddem yn hynod falch ac wrth ein bodd pan aeth ymlaen i weithio i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2016, lle parhaodd â’r ymgyrch hanfodol dros hawliau dynol.
Mae ein calonnau’n mynd allan at ŵr, merch, teulu a ffrindiau Becky. Rydych chi yn ein meddyliau yn ystod yr amser poenus iawn hwn. Rydym yn eich dal yn agos yn ein hatgofion o Becky ac yn y wybodaeth ei bod wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau mewn ffyrdd ystyrlon a pharhaol.
Byddwn yn cofio Becky gyda hoffter, diolchgarwch, a synnwyr o ryfeddod dwfn at yr effaith y gall un person ei chael ar gynifer.
Cysga’n dawel, gyfaill.





