Mae Anabledd Cymru yn croesawu’r ymateb cryf ac ystyriol gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i’n llythyr yn codi pryderon brys ynghylch toriadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd.
Yn eu hymateb i ni, cydnabu’r Cadeirydd, er bod lles yn fater a gedwir yn ôl, fod y Pwyllgor yn teimlo’n orfodol i weithredu oherwydd yr “effaith sylweddol ar unigolion a theuluoedd yng Nghymru.”
Yn bwysig, mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan dynnu sylw at bryderon dwfn ynghylch amserlen y diwygiad, yr effaith anghymesur ar Gymru, a’r methiant i fynd i’r afael â rhwystrau cyflogaeth sydd wedi hen ymwreiddio i bobl anabl.
Mae eu neges yn glir:
“Mae’n ddyletswydd ar yr Adran Gwaith a Phensiynau, cyflogwyr ac eraill i roi trefn ar bethau” cyn gweithredu unrhyw ddiwygiad.
Mae hyn yn adleisio’r hyn y mae Anabledd Cymru wedi’i ddadlau ers tro byd: rhaid mynd i’r afael â strwythurau cymorth a gwahaniaethu yn y gweithle cyn newid y system fudd-daliadau. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor, ‘Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!‘ yn darparu tystiolaeth gref bod y system yn methu â diwallu anghenion pobl anabl, a bod angen newid brys ar bob lefel.
Rydym yn diolch i’r Pwyllgor am sefyll ochr yn ochr â phobl anabl yng Nghymru, ac am droi ein pryderon yn weithredu gwleidyddol. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i wrando, gweithredu, a sicrhau bod pobl anabl wrth wraidd llunio polisïau, nid yn cael eu gwthio i’r ochr ganddo.





