NEST – Gweithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd

Gweithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Nod cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol ledled Cymru.

Mae Nyth yn rhoi cyngor am ddim er mwyn helpu cartrefi i leihau eu biliau ynni, cynyddu eu hincwm a gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Mae’r cynllun hefyd yn darparu gwelliannau am ddim ar gyfer pobl sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar brawf modd sy’n berchen ar eu cartref neu’n ei rentu’n breifat. Gall y gwelliannau hyn gynnwys boeler gwres canolog newydd, inswleiddio’r atig, neu inswleiddio waliau ceudod a waliau solet.

Rhwng 2011 a 2015, mae dros 68,000 o ddeiliaid tai wedi cysylltu â Nyth ac mae 17,700 wedi cael gwelliannau am ddim i’w cartref ac wedi arbed £477 ar gyfartaledd ar eu biliau ynni.

Mae Nyth yn ategu amrywiaeth o wasanaethau cyngor a chymorth ac yn gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys awdurdodau lleol ac amrywiaeth o elusennau a chyrff yn y trydydd sector, er mwyn cyrraedd cartrefi sydd â’r angen mwyaf. Gall tîm o Reolwyr Datblygu Partneriaeth Nyth roi cyflwyniadau a hyfforddiant, a gweithio gyda phartneriaid ar ddigwyddiadau ar y cyd ac ymgyrchoedd wedi’u targedu.

Mae sefydliadau partner yna’n cyfeirio cwsmeriaid at Nyth drwy naill ai eu cyfeirio at rif rhadffôn Nyth (0808 808 2244) a’r wefan (www.nestwales.org.uk/cy/hafan), neu drwy ddefnyddio gwefan benodedig Porth Partneriaid sy’n rhoi adborth i’r partner ar ei atgyfeiriadau.

Os credwch y gallai Nyth ategu eich gwaith ac y gallech helpu i gyrraedd pobl y mae angen cymorth arnynt, cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Partneriaeth lleol – y Canolbarth a’r De (rhian.liddiard@est.org.uk), y De ddwyrain (Daniel.StJohn@est.org.uk), y Gogledd (rick.ward@est.org.uk), neu’r  Gorllewin (peter.hughes@est.org.uk).

Leave a Reply

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members