Rhian Davies
Prif Weithredwraig

Mae Rhian Davies, Prif Weithredwraig Anabledd Cymru ers 2001, yn eiriolwr hirsefydlog dros hawliau anabledd a chydraddoldeb. Yn 2017 rhoddodd dystiolaeth yn y Cenhedloedd Unedig yn Geneva i’r Pwyllgor ar Hawliau Pobl Anabl yn ystod ei adolygiad o weithrediad Llywodraeth y DU o’r Confensiwn. Mae Rhian yn cadeirio Grŵp Llywio Cenedlaethol Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol Llywodraeth Cymru. Rhwng 2013 – 2016 bu’n aelod Anabledd ar Grŵp Cynghori Allanol ‘Tackling Poverty’ Llywodraeth Cymru ac mae’n gyn-aelod o Bwyllgor Statudol Cymru EHRC (2007-2012).
Mae Rhian yn gyfrifol am reoli a datblygu Anabledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys: gweithredu rhaglenni gwaith, rheoli staff ac adnoddau ariannol a materol y sefydliad, a sicrhau bod Anabledd Cymru yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol. Mae Rhian yn cynrychioli’r sefydliad mewn amrywiol bartneriaethau ac yn cefnogi’r Cyfarwyddwyr i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau.