Interniaethau i fyfyrwyr anabl

Gwybodaeth i fyfyrwyr a staff cymorth prifysgolion 

Mae’r ymchwil a wnaed gan brosiect a ariannwyd gan DRILL, Legally Disabled, yn dangos bod pobl anabl dan anfantais yn y farchnad lafur oherwydd rhagdybiaethau cyflogwyr, gweithleoedd anhygyrch a diffyg dealltwriaeth cyflogwyr. Gall hyn eithrio pobl anabl rhag cyflawni eu nodau a mynd i mewn i’r byd gwaith. 

Ein nod yn Anabledd Cymru yw mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn trwy wella’r dirwedd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl. 

Trwy gefnogi unigolion ar ddechrau eu gyrfa, rydym yn gobeithio creu newid cynaliadwy. 

Gwneud cais am Leoliad GO Wales

Mewn cydweithrediad â GO Wales, rydym yn darparu interniaethau di-dâl i fyfyrwyr cymwys yng Nghymru. Mae treuliau ar gael. 

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal ystod o leoliadau gan gynnwys:

  • Gwaith gwneud fideo
  • Gwaith cyfieithu Cymraeg
  • Marchnata
  • Darlun a dyluniad
  • Ysgrifennu blogiau / cynnwys ar-lein
  • Dadansoddi data

Ysgrifennodd intern y Brifysgol Agored, Elin (sydd nawr yn gweithio i AC fel Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu) am ei interniaeth rhithiol gydag Anabledd Cymru yn 2019: http://www.open.ac.uk/about/santander-universities/disability_wales

Mae nifer o fyfyrwyr eraill hefyd wedi ysgrifennu am eu profiadau o weithio gyda ni, gallwch ddarganfod eu blogiau ar ein gwefan.

Yn ddiweddar, mae rhai o’r myfyrwyr sydd wedi gweithio gyda ni wedi cymryd rhan mewn fideo i hybu’r cyfloedd sydd ar gael, a sut y gall gyfrannu mewn ffordd bositif at yrfa pobl anabl. Gwyliwch y fideo ar ein sianel YouTube.

Mae mwy o wybodaeth am interniaethau i’w gweld yn ein pamffled: 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jody.mellor@disabilitywales.org neu’r tîm GO Wales yn eich prifysgol. 

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members