Gill Styles

Rheolwr Cyllid a Chydymffurfiaeth

Gill Styles standing in front of a white wall and smiling at the camera. She wears a black jumper with a green and purple scarf along with a DW lanyard. Her light hair is worn up.

Mae Gill yn gyfrifol am holl faterion ariannol AC gan gynnwys cynllunio cyllideb, datblygu ac adrodd ariannol, ac am sicrhau bod Anabledd Cymru yn gweithredu mewn modd cyfreithiol a moesogol tra’n cyflawni ei nodau sefydliadol.

Mae Gill yn gyfrifydd cymwysedig sydd wedi gweithio mewn ystod eang o fusnesau a sefydliadau dros y 30 mlynedd diwethaf, yn amrywio o fanciau mawr i elusennau bach. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio i elusen iechyd meddwl fach yn Aberystwyth lle dysgodd lawer am yr heriau ymarferol y gall pobl eu hwynebu bob dydd, a’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i’w cefnogi a’u grymuso. Mae Gill yn awyddus i fod yn rhan o dîm AC a chynnig cefnogaeth, yn ei ffordd ei hun, i waith hanfodol y sefydliad.

Pan nad yw’n gweithio, mae Gill yn gwneud y mwyaf o fyw ar gyrion Mynyddoedd Cambria – cerdded, gwylio adar, peintio a brwydro yn erbyn gwlithod yn yr ardd. Mae hi’n dysgu Cymraeg hefyd!

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members