Leandra Craine
Cydlynydd Prosiect Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth

Leandra yw’r Cydlynydd Prosiect Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth. Mae hi wedi gweithio’n flaenorol fel Swyddog Cymorth Cyfranogiad Dinesig ar y gronfa Mynediad i Swydd Etholedig a Swyddog Prosiect EQuip a oedd yn cysylltu Sefydliadau Pobl Anabl a myfyrwyr prifysgol anabl rhwng 18 a 25 oed. Mae hi hefyd yn rheoli ceisiadau am leoliadau gan fyfyrwyr a graddedigion gydag Anabledd Cymru.
Cyn ymuno â DW, graddiodd Leandra gyda gradd Meistr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2020 a bu’n weithgar yn cefnogi ei chyfoedion trwy fod yn gynrychiolydd academaidd, cadeirio cyfarfodydd Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr (SSCC) a gweithredu fel mentor cymheiriaid ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf.