Kat Watkins

Swyddog Datblygu CCUHPA

Kat Watkins smiling at the camera. She wears a bright pink top along with a DW lanyard. She has long light hair.

Kat yw Swyddog Datblygu CCUHPA (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl). Mae hi’n gyfrifol am ddod ag addysg a gwybodaeth am y confensiwn i ysgolion ledled Cymru. Mae ei rôl a’i hangerdd i addysgu plant am anabledd a’r CCUHPA yn ategu ei gradd meistr mewn datblygiad a hawliau dynol y mae hi ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ei chwblhau.

Cyn y rôl hon, Kat oedd Swyddog Prosiectau Sefydliadau Pobl Anabl Anabledd Cymru, a oedd yn gyfrifol am ddosbarthu cronfa adfer covid Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi gwirfoddoli gyda gwahanol Sefydliadau Pobl Anabl ers blynyddoedd lawer ac, oherwydd y cyfleoedd y mae Covid wedi’u cynnig o ran gweithio gartref, roedd yn gallu ymuno ag Anabledd Cymru yn 2021.

Yn ei hamser hamdden, mae Kat yn hoffi crefft, teithio i wahanol wledydd ac ymgyrchu ar hawliau i bobl anabl.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members