Natalie Jarvis

Swyddog Polisi ac Ymchwil

Natalie stands in front of a white wall wearing a black dress with cream sleeves and gold buttons, and a DW lanyard around her neck. She has mid-length brown hair and smiles a closed-lip smile at the camera.

Fel Swyddog Polisi ac Ymchwil, mae Natalie yn gyfrifol am sbarduno newid effeithiol mewn polisi cyhoeddus a dylanwadu ar lunwyr polisi allweddol drwy ddatblygu safbwyntiau polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Daw Natalie â chyfoeth o brofiad o’r trydydd sector, ar ôl bod yn wirfoddolwr, cydlynydd prosiect, cydlynydd gwirfoddolwyr, ysgrifennydd ymddiriedolwyr a chyfarwyddwr.

Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau gwirfoddolwyr anabl. Y nod yw helpu’r trydydd sector i ddod yn fwy cynhwysol a hygyrch, gan sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn ac elwa o wirfoddoli.

Daw angerdd Natalie dros hawliau anabledd o’i phrofiadau bywyd hi a’i theulu sydd wedi ei hysgogi i weithio tuag at gymdeithas well a thecach.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members