Linus Harrison
Cydlynydd Rhaglen
Linus yw’r Cydlynydd Rhaglen ar gyfer rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Mae’r rôl yn ei weld yn arwain cynllunio a chyflawni’r fenter groestoriadol hon, sy’n anelu at chwalu’r rhwystrau y mae pobl anabl a grwpiau eraill sydd wedi’u hymylu yn eu hwynebu wrth ymuno â bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
Mae gan Linus gyfoeth o brofiad o bob rhan o’r trydydd sector, o weithio ar drefnu a chyflawni prosiectau, i gefnogi pobl yn uniongyrchol fel gweithiwr achos. Mae’n angerddol am weithio gyda phobl o gefndiroedd sydd wedi’u hymylu i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. Mae hefyd wedi arwain prosiectau ymchwil gyda Chlwstwr Creadigol, ac Ymchwil a Datblygu Creadigol Bryste + Caerfaddon, gan archwilio iaith weledol yn y cyfryngau a phrofiadau synhwyraidd o fewn cyhoeddi.
Y tu allan i’r gwaith, mae Linus yn ymddiddori mewn dysgu ieithoedd ac mae’n angerddol am greadigrwydd. Mae bob amser yn barod am sgwrs am yr hyn y mae rhywun yn gwrando arno, yn ei ddarllen neu’n ei greu.





