
Ers amser maith, mae gwir angen i Wleidyddiaeth fod yn fwy cynhwysol a chynrychioladol o bobl Fyddar a phobl anabl. Mae’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Mae’n datblygu’r gwaith hollbwysig a gafodd ei wneud yn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru cyn Etholiadau 2021 y Senedd ac Etholiadau 2022 Llywodraeth Leol. Ei nod yw cael rhagor o bobl Fyddar a phobl anabl i fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gan sefyll i gael eu hethol ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r prosiect hwn yn amlochrog gyda nifer o weithgareddau gwahanol yn digwydd:
- Creu Rhwydwaith Gwleidyddiaeth Pobl Anabl trawsbleidiol
- Darparu cefnogaeth gan gymheiriaid
- Datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i sefyll fel ymgeiswyr effeithiol
- Darparu hyfforddi a mentora
- Creu Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth Cymru
- Wedi’i gyd-gynhyrchu gyda rhai yn y Rhwydwaith i roi gwybod am yr arferion gorau i bob Plaid Wleidyddol yng Nghymru
- Gweithio gyda phob Plaid Wleidyddol i sicrhau ymrwymiad i weithredu’r Siarter
- Creu pecynnau cymorth arferion gorau
- Darparu gwybodaeth ymarferol am bynciau fel cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll am swydd etholedig
- Eirioli dros hawliau Pobl Anabl er mwyn iddynt gymryd rhan lawn ac effeithiol mewn bywyd gwleidyddol
- Glynu wrth Erthygl 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Dylai pobl Fyddar a phobl anabl sydd â diddordeb mewn Gwleidyddiaeth a/neu wybod rhagor, gysylltu â’n Swyddog Prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth, Kat Watkins, trwy ebostio kat.watkins@disabilitywales.org.
Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth
Mae Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth yn ganllaw beiddgar ac ymarferol i bleidiau gwleidyddol gefnogi cyfranogiad, cynrychiolaeth a dylanwad ystyrlon pobl anabl mewn bywyd gwleidyddol ledled Cymru.
Wedi’i gynhyrchu ar y cyd ag aelodau o Rwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, ac wedi’i lywio gan waith arloesol gan Inclusion Scotland ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol allweddol, mae’r Siarter yn nodi camau clir, cyraeddadwy i bleidiau gwleidyddol gael gwared ar rwystrau a chreu strwythurau plaid mwy cynhwysol.
Mae pobl anabl yn ffurfio un rhan o bump o boblogaeth Cymru, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu mewn rolau etholedig a gwneud penderfyniadau. Mae’r gwaharddiad parhaus o bobl anabl o fannau gwleidyddol yn cyfyngu ar ansawdd, perthnasedd ac effaith gwneud penderfyniadau cyhoeddus. Mae’r Siarter hon yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwnnw’n uniongyrchol.
Mae Anabledd Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu’r Siarter. Drwy weithredu nawr, gall pleidiau chwarae rhan hanfodol wrth greu democratiaeth fwy teg, cynhwysol a chynrychioliadol yng Nghymru.
Lawrlwythwch y Siarter
Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth (PDF)
Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth – testun plaen (Dogfen Word)
Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth – Hawdd i’w darllen (Powerpoint)





