Nod prosiect Hawliau Yma, Hawliau Nawr yw rhoi gwybodaeth i ymarferwyr a dysgwyr am hawliau pobl anabl er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu.
Byddwn yn dod â’r prosiect hwn i dri awdurdod lleol ledled Cymru; Conwy, Powys ac Abertawe, gyda chymysgedd o leoliadau addysg yn cymryd rhan.
Fel rhan o’r prosiect, bydd pecyn hyfforddi athrawon a chynlluniau defnyddiol ar gyfer gwersi ar gael. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant am ddim i leoliadau addysg dros Zoom ac mewn person.
Ein Swyddog Datblygu CCUHPA, Kat Watkins, sydd yn arwain y gwaith ac mae’n gyffrous i fod yn cymryd yr awenau wrth i’w hangerdd dros hawliau anabledd ac addysgu eraill ddod at ei gilydd yn y rôl hon.
Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan Grŵp Cynghori’r Prosiect ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Ymweliadau a chanlyniadau, hyd yma.
Mae’r gwaith wedi derbyn adborth cadarnhaol gydag ymarferwyr a dysgwyr yn dweud bood y hyfforddiant yn ddifyr a doniol. Mae’r prosiect wedi profi i wneud gwahaniaeth o ran hyder pobl i siarad am hawliau anabledd a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Fel un enghraifft, arweiniodd ymweliad Kat ag Ysgol Gynradd Libanus yn y Coed Duon at ddysgwyr yn cael yr hyder a’r wybodaeth i ysgrifennu at Gyngor Caerffili am faterion mynediad. Gwych gweld y genhedlaeth nesaf yn sefyll dros gydraddoldeb anabledd!
Dywedodd Ysgol Tre Uchaf wrthym fod y trafodaethau a ddechreuwyd yn y gwasanaethau a’r gweithdai a gyflwynwyd gennym wedi cario ymlaen mewn gwersi eraill gyda dysgwyr yn datblygu syniadau gwych am sut y gall ysgolion a chymdeithas yn gyffredinol fod yn fwy cynhwysol i bobl anabl.