Cronfa Argyfwng Covid-19 Sefydliadau Pobl Anabl

Mae’r National Emergencies Trust (NET) wedi rhoi £1.5 miliwn o gyllid i Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) cefnogaeth ar lawr gwlad ledled y DU i helpu i ddelio gyda materion sydd wedi eu hachosi neu eu gwaethygu gan bandemig COVID-19.

Mae Anabledd Cymru wedi cydweithio â Disability Action Northern Ireland, Inclusion Scotland, a Inclusion London i ddosbarthu’r cyllid hwn.

Yma yng Nghymru, rydym hefyd yn hapus iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid ychwanegol i Anabledd Cymru sy’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i’r gronfa fel y gallwn gefnogi 9 SPA i gyflawni eu prosiectau cyffrous.

Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn cefnogi’r sefydliadau hyn, nad yw llawer ohonynt wedi cael mynediad at lawer o gyllid o’r blaen, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau eu gwaith.

Cadwch lygad allan i ddarganfod mwy am y prosiect!

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members