Yn yr adran hon

Addysg

Addysg gorfodol

Os oes gennych chi, neu eich plentyn, gyflwr iechyd ac rydych mewn addysg gorfodol, ystyrir bod gennych ofynion addysg ychwanegol – a elwir yn aml yn ‘anghenion addysg ychwanegol’ mewn deddfwriaeth ac mewn ysgolion – mae gennych chi hawliau.

Mae Deddf Addysg 1996, Rhan IV (fel y diwygiwyd gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001) yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau addysg lleol i ddarparu addysg briodol i blant â gofynion addysg ychwanegol.

Mae gofynion addysg ychwanegol yn golygu fod gennych chi, neu eich plentyn, anhawster dysgu neu nam corfforol sy’n golygu ei fod yn fwy anodd i ddysgu yn yr un modd â’r rhan fwyaf o blant yr un oed. Gall hyn fod oherwydd nam corfforol sy’n golygu bod defnyddio beiro safonol yn anodd, neu bod angen cymorth ychwanegol i ddeall llenyddiaeth oherwydd anhawster dysgu. Gall fod yn anodd llywio addysg orfodol â gofynion ychwanegol. Gall derbyn cyngor fod yn ffordd dda o siarad ag arbenigwyr a darganfod y ffyrdd gorau o symud ymlaen.

Mae’r NSPCC yn cynnig cefnogaeth i rieni a’r rheini ag anawsterau dysgu i lywio addysg. Mae’r elusen yn darparu mwy o wybodaeth ar eu gwefan.

Ble i gael mynediad i gyngor a chefnogaeth:

Os yw’r ysgol yn methu eu dyletswydd, gallwch wneud cwyn a dwyn hawliad o wahaniaethu. Gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r ysgol ac os nad yw’r gŵyn yn datrys materion, fe allech chi ddewis dwyn cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd Cymru) (y “SENTW”).

Mae cymorth a chyngor cymorth a gwaith achos ar gael gan SNAP Cymru, gallwch gysylltu â nhw ar: Llinell gymorth gwahaniaethu 0300 222 5711 neu e-bost gwahaniaethu@snapcymru.org

Addysg Bellach

Gall mynd i’r brifysgol fel unigolyn anabl deimlo’n frawychus os nad ydych chi’n gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael.

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar gael i fyfyrwyr sydd â chyflwr iechyd neu nam i helpu i dalu am y costau ychwanegol hanfodol a allai fod gennych o ganlyniad uniongyrchol i’ch nam. Mae ar gael ar gyfer astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig, os ydych chi’n fyfyriwr Prifysgol Agored ac os ydych chi’n astudio Addysg Gychwynnol Athrawon ac yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr.

Gall DSA dalu am offer fel cliniadur, cadair arbenigol neu gwasanaethu fel rhywun sy’n cymryd nodiadau.

Rydych yn gwneud cais am DSA trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, ble gallwch ddarganfod ffurflen gais DSA yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol.

Dylai pob prifysgol fod hefo cefnogaeth mewn lle i fyfyrwyr anabl. Mae’n hanfodol eich bod yn dweud wrth y brifysgol fel eu bod yn gallu darparu’r gefnogaeth sydd ei angen. Mae’r gwasanaethau y gallent eu cynnig yn cynnwys:

  • Pobl i gymryd nodiadau
  • Llefydd eistedd
  • Dehonglwyr Iaith Arwyddion
  • Trawsgrifiadau Braille 
  • Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau 

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members