Yn yr adran hon

Buddion

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cael pob dim mae gennych hawl iddo. Gall pobl anabl gael mynediad i nifer o fuddion:

Mae Taliad Personol Annibynol (Personal Independence Payment – PIP) yn arian ychwanegol ar gyfer bywyd pob dydd. Mae hyn ar gael os oes gennych nam neu gyflwr iechyd ac rydych rhwng 18 a 64 mlwydd oed. Dydyw ddim yn cael ei effeithio gan unrhyw fuddion eraill rydych yn eu hawlio. Dydi cynilion incwm a statws gwaith ddim yn effeithio eich cymhwysedd.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwneud penderfyniad am y swm o PIP rydych yn derbyn ac am pa mor hir. Mae PIP yn cynnwys dwy gydran sy’n cael eu talu naill ai ar gyfradd safonol neu uwch. Y cyfrannau hyn yw:

  • Byw bob dydd. Mae hyn ar gyfer cymorth ychwanegol rydych angen gyda thasgau pob dydd, gall hyn gynnwys paratoi bwyd, ymolchi, newid a chyfathrebu â eraill.
  • Mae Symudedd ar gyfer y cymorth ychwanegol rydych ei angen i fynd o le i le, gall hyn gynnwys symud, cynllunio siwrnai, neu dilyn llwybr (route).

Gwneud cais:

Mae gwneud cais am Daliad Personol Annibynol yn cymryd amser hir. Gall y cais i gael eich arian gymryd hyd at bedwar mis. Dechreuwch eich cais trwy ffonio’r DWP a fydd yn gyrru ffurflen i chi. Ni all PIP gael ei hawlio ar-lein.

Os oes gennych nam sydd yn gwneud ysgrifennu yn anodd, gallwch ofyn bod unrhyw ffurflenni yn cael eu e-bostio atoch yn y dyfodol. Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gan gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych gan unrhyw feddygon proffesiynol sy’n ymwneud a’ch nam neu gyflwr iechyd. Gall fod yn ddefnyddiol i gysylltu ag elusen fel Citizens Advice a fydd yn gallu eich cefnogi trwy’r broses o gwblhau eich cais, yn cynnwys unrhyw apêl. Gallwch gael mynediad i gefnogaeth trwy ffonio neu sgwrs ar-lein.

Citizens Advice: PIP ar gyfer pobl anabl

Tudalen gyswllt Citizens Advice

Oni bai bod gennych salwch angheuol, bydd rhaid mynychu asesiad i gwblhau eich cais. Bydd unigolyn o’r proffesiwn iechyd yn cynnal yr asesiad, dydi nhw ddim yn ddiagnosis o’ch cyflwr. Mae asesiad yn rhoi’r cyfle i chi egluro sut mae eich cyflwr iechyd yn eich effeithio chi. Mae’n bwysig paratoi ar gyfer yr asesiad gan fod DWP yn defnyddio’r tystiolaeth ohono i benderfynu os byddwch yn derbyn PIP. Dylwch fod yn barod i wybod sut mae eich nam yn eich heffeithio, hyd yn oed os ydych wedi rhoi’r manylion ar y ffurflen gais.

Gall hyn fod yn anodd felly byddai cymryd nodiadau o flaen llaw yn syniad da gan y bydd yn ddefnyddiol os byddwch yn gallu siarad am:

  • Pa fath o bethau sy’n creu rhwystrau, er enghraifft, cerdded fyny grisiau heb gymorth neu cofio mynd i apwyntiadau
  • Sut mae eich nam yn eich effeithio chi o ddydd i ddydd
  • Sut mae diwrnod gwael yn teimlo i chi – er enghraifft, ‘ar ddiwrnod drwg ni allaf gerdded gan fod fy nam yn effeithio fy mhen-gliniau ac yn achosi llawer o boen’.

Gall fod yn syniad da i fynd a chopi o’ch ffurflen gais gyda chi er mwyn cyfeirio yn ôl ato a sicrhau eich bod yn dweud pob dim rydych isio i’r aseswr ei wybod. Gallwch fynd â rhywun gyda chi i’r asesiad, gall y person yma fod yn aelod o’r teulu neu weithiwr cymorth.

Beth os nad ydw i’n cytuno gyda penderfyniad DWP?

Gallwch herio y penderfyniad os ydych yn anghytuno. Gallwch herio’r DWP os:

  • cawsoch gyfraddiad îs na’r disgwyl
  • rydych yn teimlo nad yw’r wobr yn ddigon hir

Gwneud cais am ail-ystyriaeth gorfodol

Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio cais ail-ystyriaeth orfodol CRMR1 ar wefan gov.uk, neu trwy ysgrifennu llythyr i’r DWP yn egluro pam rydych yn anghytuno gyda’r penderfyniad. Er eich bod yn gallu ffonio i ofyn am ail-ystyriaeth, mae’n well cael pob dim mewn ysgrifen, mae’n bwysig dilyn yr alwad gyda llythyr. Bydd manylion cyswllt ar yr llythyr penderfyniad gan y DWP. Bydd rhaid i chi wneud cais am ail-ystyriaeth orfodol o fewn un mis o’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Os wnaethoch fethu’r dyddiad cau, gall fod yn fuddiol gofyn am ail-ystyriaeth orfodol os yw o fewn 13 mis o’r penderfyniad. Bydd rhaid i chi egluro eich rhesymau am fod yn hwyr, megis bod yn rhy sâl i wneud cais ar amser. Defnyddiwch eich ffurflen neu lythyr i egluro pam bod eich cais yn hwyr, yn ogystal â pam eich bod yn anghytuno gyda eu penderfyniad.

Darganfyddwch fanlyion ar sut i wneud cais.

Lwfans Cymorth Cyflogaeth (ESA)

Mae Lwfans Cymorth Cyflogaeth yna i’ch helpu os yw eich nam neu gyflwr iechyd yn effiethio faint rydych yn gallu gweithio. Mae ESA yn disodli budd analluogrwydd. Gall helpu gyda chostau byw os nad ydych yn gallu gweithio a darparu cymorth i fynd nol mewn i’r byd gwaith, os ydych yn gallu.

Gallwch ymgeisio am ESA os ydych mewn cyflogaeth, hunan-gyflogedig neu os ydych yn ddi-waith. I dderbyn taliad, bydd rhaid i chi gael o leiaf dwy flynedd o gyfraniadau llawn yswiriant cenedlaethol, gall hyn ddeillio o gyflogaeth, neu o gredyd yswiriant cenedlaethol rydych yn derbyn pan ar fuddion tra’n ddi-waith.

Bydd rhaid i chi ddangos bod eich cyflwr iechyd yn ei wneud yn anodd i chi weithio.

Credyd Cyffredinol

Mae credyd cyffredinol yn bodoli i’ch cefnogi os ydych allan o waith neu ar incwm isel er mwyn eich helpu gyda chostau byw. Mae’n cael ei dalu’n fisol.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, efallai bod gennych hawl i arian ychwanegol. Bydd hyn yn dibynnu ar os yw eich cyflwr yn effeithio’r nifer o oriau rydych yn gallu gweithio. Os ydych yn gweithio llai o oriau oherwydd cyflwr iechyd, gallwch fynychu Asesiad Gallu Gwaith. Mae hyn yn debyg i’r asesiad ar gyfer PIP. Gall olgyu os ydych yn gweithio mwyafswm o 16 awr yr wythnos oherwydd nam, ni fydd rhaid i chi chwilio am fwy o oriau.

O ganlyniad i’r asesiad, byddwch yn cael eich rhoi mewn un o dri categori:

  • Iach i weithio
    • Bydd rhai i chi fod yn chwilio am waith yn weithredol
  • Gallu cyfyngiedig i weithio 
    • Mae hyn yn golygu ni allwch weithio ar hyn o bryd oherwydd nam neu gyflwr iechyd, ond rydych yn gallu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, gall hyn gynnwys ysgrifennu CV
  • Gallu cyfyngiedig i weithio a gweithgareddau yn ymwneud â gwaith
    • Mae hyn yn golygu bod eich nam neu gyflwr iechyd yn golygu ni allwch weithio neu baratoi at waith yn y dyfodol.

Os ydych yn hawlio Credyd Cyffredinol yn barod, gallwch adrodd ‘Newid mewn Amgylchiadau’ gan fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cyffredinol.

I hawlio Credyd Cyffredinol, gallwch wneud cais ar-lein. Mae mynediad i wasanaeth Iaith Arwyddion Prydeinig hefyd ar gael ar y dudalen.

Lwfans Presenoldeb

Mae Lwfans Presenoldeb i’ch helpu chi gyda chostau ychwanegol os ydych angen unigolyn i roi cymorth i chi oherwydd nam neu gyflwr iechyd ac rydych yn oedran pensiwn stadol neu yn hyn.

Gallwch dderbyn £60 neu £89.60 yr wythnos. Mae’r radd rydych yn cael ei wobrwyo yn dibynnu ar y lefel o ofal rydych ei angen oherwydd eich nam. Nid oes angen i chi gael rhywun yn gofalu amdonoch yn weithredol er mwyn hawlio hyn.

Premiwm Anabledd

Mae rhain yn symiau ychwanegol i rai buddion:

  • Cefnogaeth Incwm
  • Lwfans ceisio gwaith ar sail incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm 
  • Buddion tai

Dylai’r arian hwn gael ei ychwanegu’n awtomatig i’r buddion hyn felly nid oes angen ymgeisio.

Cyngor buddion 

Isod gweler dolenni i elusennau a sefydliadau allanol sydd yn cynnig cyngor:

  • Mae Mencap Cymru yn cynnig cefnogaeth i bobl ag anhawsterau dysgu. Gallwch eu ffonio ar 0808 808 1111

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members