Yn yr adran hon

Tai

Tai Cymdeithasol

Mae cartrefi cymdeithasol, sydd weithiau yn cael eu cyfeirio atynt fel ‘cartrefi cyngor’, yn cael eu darparu gan gynghorau lleol a chymdeithasau tai (sefydliadau nid er elw sydd berchen, yn gosod a rheoli tai rhent).

I gael mynediad i dai cymdeithasol, bydd rhaid i chi gofrestru hefo eich cyngor lleol.

Darganfyddwch ei cyngor lleol.

Bydd gan pob cyngor reolau ei hun ynghylch pwy sydd yn gallu ymgeisio a phwy sydd â blaenoriaeth, ond mae’n debygol bydd rhaid i chi:

  • Bod ar incwm isel a/neu peidio bod hefo cynilion mawr
  • Bod wedi byw yn yr ardal am nifer o flynyddoedd neu bod gyda swydd neu deulu yno. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘Gysylltiad Lleol’.

Bydd pwyntiau yn cael eu rhoi i chi yn ddibynnol ar eich anghenion. Mae’r pwyntiau yn helpu cynghorau i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf mewn angen yn cael llety gyntaf. Os eich cyflwr iechyd yw eich rheswm pennaf dros symud, bydd rhaid i chi adeiladu achos trwy fanylu pam fod eich llety presennol yn anaddas ac yn achosi caledi sylweddol neu cynyddu risg o argyfwng, er enghraifft diffyg ramp yn cynyddu’r risg o gael codwm.

Rydych yn ymgeisio am dai cymdeithasol trwy eich cyngor lleol, mae rhai cymdeithasau tai yn gofyn eich bod yn ymgeisio yn uniongyrchol iddyn nhw. Dylai’r cyngor fedru darparu gwybodaeth ham gymdeithasau tai yn eich ardal lleol. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch incwm a’ch cynilion. Dyma’r amser hefyd i ymgeisio i’r rhestr flaenoriaethu os yw eich nam yn golygu eich bod angen math arbenning o dy, er enghraifft, bunglo os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn. Mae cynllun dyraniad blaenoriaeth y cyngor yn gallu amrywio ond rydych yn fwy tebygol o gael eich ychwanegu os:

  • Yn ddigartref yn gyfreithiol neu bod gan y cyngor ddyletswydd i ddargafnod llety i chi os ydych y ddigartref
  • Symud oherwydd eich nam neu gyflwr iechyd hir-dymor
  • Symud i ardal wahanol oherwydd ‘caledi’. Gall hyn fod oherwydd eich bod mewn perygl, eich bod yn cymryd sydd newydd neu am driniaeth meddygol.
  • Rydych mewn cartref sydd yn orlawn neu mewn cyflwr gwael.

Mae’n debygol byddwch yn disgwyl am amser hir, hyd yn oed os ydych ar y restr blaenoriaeth ynh eich ardal. Os nad ydych yn teimlo bod y cyngor yn rhoi digon o flaenoriaeth i chi, gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ail-ystyried.

Mae gan gynghorau a chymdeithasau tai ddyletswydd i wneud newidiadau rhesymol fel eich bod yn gallu cael mynediad i’r broses ymgeisio am dai, cymorth i gwblhau’r cais yn ogystal â chyngor am fidio ar dai.

Mae nifer o gymdeithasau tai a rhai cynghorau yn cynnig cymorth tai. Mae cymorth tai bodoli i i alluogi pobl i reoli bywyd o ddydd i ddydd, gall hyn gynnwys cymorth cyllidebu, talu biliau a cymorth emosiynol, yn ogystal â chymorth i ddilyn diddordebau cymdeithasol neu hamdden.

Rhentu preifat 

Os ydych yn yn rhentu’n breifat, mae gennych rhai hawliau penodol ac mae gan eich ‘landlord’ gyfrifoldebau, yn cynnwys:

  • Cadw’r llety/eiddo yn ddiogel ac yn rhydd o beryglon
  • Gwneud yn siwr bod yr holl offer nwy a thrydan wedi ei osod a’i gynnal yn ddiogel
  • Darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr llety
  • Gosod eich blaendal mewn cynllun a gymeradwyd gan y Llywodraeth.

Addasiadau cartref

Os ydych yn ei weld yn anodd i fynedu cyfleusterau sylfaenol yn eich cartref, neu eich bod ddim yn teimlo’n ddiogel yn symud o gwmpas eich cartref, efallai byddai addasiadau cartref yn fuddiol. Os yw’r addasiad yn costio llai nai £1000, dylai eich cyngor neu fwrdd iechyd lleol ddarparu hyn am ddim. Os yw’r gost yn fwy na £1000, bydd rhaid i chi ymgeisio am ‘Disabled Facilities Grant’ (DFG) gan eich cymdeithas dai lleol. Mae DFG’s yn destun prawf modd.

Os ydych yn rhentu’n breifat, mae gennych dal yr hawl i addasiadau cartref. Bydd rhaid i chi gael caniatad gan eich landlord i wneud y newidiadau hyn. Er hyn, ni allent wrthod oni bai fod ganddynt reswm teilwng dros wneud hynny. Bydd rhaid i chi a’ch landlord gadarnhau eich bod am aros yn y cartref am y pum mlynedd nesaf.

Cyngor 

Mae cyngor tai ar gael gan nifer o sefydliadau:

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members