Yn yr adran hon

Cyflogaeth

Eich hawliau a gwahaniaethu 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu ei bod hi’n erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn pobl anabl yn y gweithle, yn cynnwys eu telerau ac amodau, buddion, cyfloedd am ddyrchafiad a terfynu cyflogaeth. Diffiniad pwy sy’n cael ei gysidro fel person anabl yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb yw:

  • mae gennych nam corfforol neu feddyliol
  • Mae gan y nam hwn effaith hir-dymor ar eich gallu i gwblhau tasgau o ddydd i ddydd

Mae rhain eu trafod yn ‘Schedule’ 1, Rhan 1 o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn Rheoliad 7 o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) Rheoliadau 2010.

Os yw cyflogwr yn trin person anabl yn wahanol yn fwriadol i berson sydd ddim yn anabl, mae hyn yn anghyfreithlon ac yn cael ei gysidro fel gwahaniaethu uniongyrchol. Mae gwybodaeth yn bwysig. Mae’n rhaid i’r cyflogwr fod wedi bod yn ymwybodol eich bod yn anabl pan ddigwyddodd y gwahaniaethu uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys:

  • peidio cynnig cyfleoedd i ennill dyrcharfiad neu cyfleoedd ymarfer i chi
  • yn eich testun i adolygu perfformiad a gallu
  • eich talu yn wahanol neu peidio rhoi bonws i chi
  • ddim yn eich gwahodd i ddigwyddiadau tîm 

Gwahaniaethu o ganlyniad i anabledd 

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr eich trin yn wael oherwydd rhywbeth sydd o ganlyniad i’ch cyflwr iechyd neu nam, oni bai eu bod yn gallu profi bod rheswm amdano ac ei fod yn gymesur. Mae cymesur yn golygu bod dim ffordd arall fyddai’n gwahaniaethu llai er mwyn cyflawni y canlyniad mae eich cyflogwr eisiau. Dylai’r cyflogwr gysidro pa addasiadau rhesymol gallai ei wneud pan yn penderfynu hyn.

Eto, mae gwybodaeth yn bwysig. Dylai eich cyflogwr fod yn ymwybodol, neu y disgwylir wybod, eich bod yn anabl. Er hyn, does dim disgwyl iddynt wybod sut mae eich cyflwr iechyd yn eich effeithio chi pan yn gweithio. Er enghraifft, mae eich cyflogwr yn ymwybodol fod gennych nam clyw ac eich bod angen cyfieithydd iaith arwyddion mewn cyfarfodydd. Efallai nad ydynt yn ymwybodol eich bod chi hefyd angen palantypist oherwydd ni allwch gymryd nodiadau wrth ymgysylltu â chyfieithydd BSL.

Un enghraifft o wahaniaethu o ganlyniad i anabledd yw cyflogwr ddim yn cynnig dyrchafiad oherwydd eu bod yn credu byddwch yn rhy flinedig i ymdopi oherwydd fod gennych ME.

Gwahaniaethu Anabledd Anuniongyrchol

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr gyflwyno rheol, polisi neu arwain gwaith mewn ffordd sydd a effaith negyddol fwy ar bobl anabl o gymharu i pobl sydd ddim yn anabl.

Gall enghraifft o hyn fod yn ymarfer o flaenoriaethu staff llawn-amser ar gyfer dyrcharfiad ac ymarfer. Mae gan y potensial i roi pobl anabl sydd angen gweithio rhan-amser i ymdopi gyda eu cyflwr o dan anfantais i gymharu a phobl sydd ddim yn anabl.

Gallwch ddarganfod fwy o fanylion am eich hawliau trwy lawrlwytho Gwybod eich hawliau, defnyddio eich hawliau, byw eich hawliau, adnodd gwybodaeth ar gyfer pobl anabl.

Addasiadau Rhesymol 

Mae’n ofynol trwy gyfraith i gyflogwyr gymryd camau i ddisodli rhwystrau mae pobl anabl yn eu gwynebu yn y gweithle. Mae hyn yn cael ei alw’n ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn yn golygu os oes gan eich cyflogwr reolau, polisiau, neu yn gwneud pethau mewn ffordd sydd yn eich rhoi chi fel person anabl o dan anfantais, neu os oes rhwystrau corfforol yn yr amgylchedd gwaith, mae’n rhaid iddynt gymryd camau i ddisodli’r rhwystrau hyn. Does dim ond rhaid i gyflogwr wneud addasiadau a fyddai’n ‘resymol’ iddyn nhw gyflwyno yn y sefyllfaoedd hyn.

Pan yn cysidro beth sy’n ‘resymol’, rhaid i nifer o elfennau gael eu cysidro. Mae hyn yn cynnwys yr effaith ar eraill, eu busnes, y gost, a’r effaith mae’r addasiadau yn debygol o gael.

Mae’r cyflogwr yn gyfrifol am dalu am gost yr addasiad(au). Mae Access to Work yn gynllun gan y Llywodraeth sydd yn helpu gyda chostau. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Access to Work.

Cyngor

Gall Citizen’s Advice ddarparu cyngor ar wahaniaethu mewn gwaith. Gallwch gysylltu â Adviceline ar 0800 702 2020 neu gallwch dectsio a ffeindio eich Citizens Advice lleol ar y wefan hon

Os ydych yn aelod o undeb, mae’n werth cysylltu â i weld os oes ganddynt unrhyw gymorth ychwanegol i bobl anabl, er enghraifft, mae gan Unison aelodau grwp anabl sydd yn ymladd yn erbyn gwahaniaethu ac yn ymgyrchu am welliant hygyrchedd yn y gweithle.

Cymorth i bobl sydd yn chwilio am waith

Scope; Cymorth i Weithio 

Mae Cymorth i Weithio yn gynllun cefnogaeth 12 wythnos ar y ffon neu ar-lein, yn rhad ac am ddim. Mae’n cefnogi pobl anabl sydd yn chwilio am waith yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r gwasanaeth yma’n dechrau trwy siarad â arbenigwr/cynghorydd cyflogaeth, ar y ffôn neu ar-lein. Maent yn gwrando ar eich sialensau a rhwystrau rydych wedi eu profi, ac yn cynnig cyngor penodol ar gyfer eich sefyllfa. Gallent gynnig cyngor gyda nifer o elfennau o chwilio am waith taledig, yn cynnwys:

  • magu hyder a sgiliau swydd fel rheoli amser
  • sut a ble i chwilio am swyddi
  • cydnabod eich cryfderau a’ch sgiliau trosglwyddadwy 
  • edrych ar eich CV er mwyn cyrraedd amcanion eich cyflogwr
  • cyfweliadau ffug 

Gallwch gael mynediad i Cymorth i Weithio trwy ffonio 0300 222 5742 neu e-bostio supporttowork@scope.org.uk 

Cefnogaeth Cyflogaeth ELITE

Mae Elite yn helpu i rymuso pobl gyda namau gan ddarparu cyfloedd galwedigaethol, ymarfer a chyflogaeth i annibyniaeth. Mae Elite yn rhedeg prosiectau ac yn darparu gwasanaethau cefnogaeth cyflogaeth ar draws Cymru. Bydd cynghorydd cyflogaeth yn cysylltu â chi i gynnal asesiad er mwyn cael darlun llawn o’ch sgiliau, eich gallu, profiad, cryfderau ac eich amgylchiadau unigryw. Bydd hyn yn helpu i greu cynllun gweithredu a darganfod y ffyrdd orau o gynorthwyo.

Gallwch gysylltu trwy e-bostio information@elitesea.co.uk neu ffonio 01443 226664 

Darganfyddwch fwy am ELITE ar eu gwefan.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members