Tracey Blockwell

Tracey Blockwell in front of a plain white wall. She has short, slightly curled dark hair

Mae Tracey yn Aelod Bwrdd enwebedig i Anabledd Cymru.

Cafodd Tracey ddiagnosis o anhwylder meinwe gyswllt etifeddadwy dros 30 mlynedd yn ôl, ac mae un o’i meibion hefyd wedi etifeddu’r cyflwr. Trwy flynyddoedd o brofiad o’r model meddygol o anabledd, mae hi bellach yn frwdfrydig dros amlygu’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae gan Tracey ddealltwriaeth o’r system gymhleth o addysg a chymorth i blant ac oedolion ifanc anabl yng Nghymru.

Daeth i gysylltiad â’r trydydd sector yn 2012, ac yn ddiweddarach daeth yn Ymddiriedolwr ar gyfer y Prosiect Cyngor Anabledd yn Nhorfaen. Trwy gwrdd â phobl anabl eraill yn DAP, daeth Tracey i gymryd mwy o ran yn y gymuned, gan godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau y mae rhai pobl anabl yn eu hwynebu.

Ar hyn o bryd mae Tracey yn Gadeirydd Fforwm Mynediad Torfaen, Sefydliad Pobl Anabl yn Nhorfaen. Maent yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol, gan amlygu rhai o’r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn yr ardal. Mae tai, mynediad i wasanaethau, mynediad i adeiladau a thlodi i gyd yn cael effaith ar fywyd dydd i ddydd rhai pobl anabl. Mae’n bwysig tynnu sylw at gynhwysiant a chydraddoldeb, gan fod llawer o bobl anabl yn y gymuned yn ynysig.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members