Kelvin Jones

Trysorydd

Board member, Kelvin, smiling at the camera. He wears a dark green jumper.

Hyd at 2013, ac am dros 25 mlynedd, bu Kelvin yn ymwneud â datblygu cymunedol a menter gymdeithasol mewn adfywio mewn sawl cymuned a wynebodd nifer o heriau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd.

Sefydlodd a gweithredodd nifer o ymddiriedolaethau datblygu a mentrau adfywio dan arweiniad pobl leol a ddefnyddiodd ffrydiau ariannu Ewropeaidd, cenedlaethol, elusennol a lleol i greu storfeydd sgrap, meithrinfeydd, caffis, mannau gwaith a reolir ar gyfer cwmnïau newydd, cyfleusterau cymunedol cymdeithasol, gweithgareddau a chanolfannau ieuenctid.

Yn y broses, crëwyd dros 60 o swyddi cynaliadwy yn ogystal â strwythurau cyfreithiol sydd eu hangen i weithredu’n effeithiol ac yn gyfreithlon e.e. Cwmnïau cyfyngedig trwy warant, Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC) ac Elusennau.

Yn 2014, datblygodd Kelvin nifer o gyflyrau corfforol cronig, o ganlyniad i orbryder ac iselder difrifol, a daeth yn dderbynnydd nifer o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarparwyd trwy’r model meddygol.

Gwaethygwyd yr heriau a wynebodd oherwydd ei namau gan y model meddygol a’r ffordd y mae cymdeithas yn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Dywed Kelvin ei fod wedi ei atal rhag cael mynediad i’r cymunedau a’r gwasanaethau o’i gwmpas a chymryd rhan lawn ynddynt ac yn wir i gyfrannu at newid cymdeithasol yn yr ardal y mae’n byw ynddi. Dywed fod y Model Cymdeithasol o Anabledd wedi bod yn ddatguddiad wrth ymdrin â’r heriau hyn.

Er mwyn cynyddu ei sgiliau, cyfrannu a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi fel person anabl, gwnaeth Kelvin gais i fod yn ymddiriedolwr Anabledd Cymru yn 2017.

Ar yr un pryd, dechreuodd ymddiddori yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd a, thrwy ddefnyddio ei brofiad blaenorol mewn cymunedau, daeth yn rhan o gefnogi’r rhanbarth i’w gweithredu. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg fel defnyddiwr gwasanaeth

Yn 2018, daeth Kelvin yn gyfarwyddwr ar gyfer rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru sy’n hyrwyddo gwerthoedd cydgynhyrchu a’r defnydd ymarferol ohonynt.

Yn 2020, ymgymerodd â diploma mewn hawliau dynol ym Mhrifysgol Abertawe. O ran hobïau, mae Kelvin wrth ei fodd â bywyd gwyllt ond yn anffodus mae’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i gefn gwlad gyda namau sy’n cyfyngu ar symudedd.

Mae Kelvin yn parhau i ddysgu oddi wrth ei gydweithwyr a’i ffrindiau ynghylch gwahaniaethu ac mae’n gobeithio parhau i gyfrannu at y newidiadau y mae angen i ni eu gweld ar gyfer cymdeithas decach, fwy cynhwysol.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members