Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru

Beth yw Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru?

Mae pobl anabl yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ym mywyd gwleidyddol Cymru.

Nod Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yw newid hynny drwy helpu i gael gwared ar rwystrau ymarferol. Mae’n gwneud hyn drwy dalu’r costau ychwanegol y gall ymgeiswyr anabl eu hwynebu wrth sefyll mewn etholiad. Mae’r gronfa ar agor i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol.

Wedi’i gweinyddu gan Anabledd Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r gronfa’n cefnogi pobl anabl i gymryd rhan lawn mewn democratiaeth.

Yn 2020, gwnaeth Cymru hanes fel y genedl gyntaf yn y DU i lansio cronfa o’r fath ar lefel cyngor cymuned, gan atgyfnerthu ei hymrwymiad i ddemocratiaeth gynhwysol a chynrychioliadol.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ail rownd o’r cynllun i gefnogi ymgeiswyr anabl sy’n sefyll mewn etholiad i’r Senedd yn 2026 a Llywodraeth Leol yn 2027.

Ydych chi’n ystyried sefyll mewn etholiad?

Os ydych chi’n berson anabl yng Nghymru ac eisiau ceisio swydd etholedig, gall y gronfa hon eich cefnogi gyda’r costau na allai ymgeiswyr nad ydynt yn anabl eu hwynebu. Gwnewch gais heddiw a chewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ymgyrchu ar delerau cyfartal.

Beth all y gronfa eich cefnogi ag ef?

Gall y gronfa dalu ystod eang o gostau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Cynorthwywyr personol
  • Trafnidiaeth hygyrch
  • Technoleg gynorthwyol
  • A mwy…

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gronfa neu os hoffech wybod mwy, gallwch e-bostio electedofficefund@disabilitywales.org neu adael neges llais drwy ffonio 029 2088 7325. Bydd eich neges yn cael ei gyfeirio at y Swyddog Cyfranogiad Dinesig.

Sut i Wneud Cais

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais drwy’r ddolen ar waelod y dudalen hon.
Gallwch ddychwelyd y ffurflen naill ai drwy ei hanfon ar e-bost i electedofficefund@disabilitywales.org, neu drwy ei phostio i:
Cronfa Mynediad i Wleidyddiaeth
Disability Wales / Anabledd Cymru
Sbarc/Sbark
Maindy Rd
Caerdydd
CF24 4HQ

Fformatau Hygyrch

Os oes angen y ffurflen gais mewn fformat amgen arnoch, neu os oes angen fersiwn gorfforol i’w llenwi, cysylltwch â ni.
Rydym hefyd yn hapus i’ch cynorthwyo i gwblhau’r ffurflen drwy gyfarfod ar-lein neu alwad ffôn.

CMSEC Ffurflen Gais 2026

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members