Rydym yn parhau i ddod ag adnoddau, cyngor a diweddariadau ynghyd i helpu ein haelodau i aros yn wybodus a chael gafael ar gymorth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon y gallem helpu gyda nhw.
Gan AC
Eich Cwestiynau Cyffredin ar y Coronafeirws
Gwybodaeth cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaeth
Awgrymiadau ar gyfer bwyd ac eitemau hanfodol i’w cael yn y cypyrddau
Datganiad ar y cyd ar effaith coronafirws ar bobl anabl yng Nghymru
Datganiad ar y cyd ar y bil coronafeirws
Coronafeirws a salwch cronig – blog gwestai
Mwy o ddolenni i ymateb Llywodraeth Cymru i’r datganiad ar y cyd a chanllawiau fframwaith newydd.
Cyfyngiadau Aros yn Lleol
Gwarchod
Bydd y cyngor i’r rhai sydd ar y rhestr warchod yn newid ar ôl Mawrth 31. O’r 1af o Ebrill, dylai’r rhai sydd wedi bod yn gwarchod ddilyn yr un cyngor a gweddill poblogaeth Cymru. Darllenwch y datganiad ysgrifenedig.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru ei gwestiynau cyffredin i’r rhai sydd yn gwarchod.
Mae Llywodraeth Cymru yn treialu gwasanaeth lle gallwch dderbyn diweddariadau ar warchod uniongyrchol i’ch ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost. Mae hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd wedi derbyn llythyrau gwarchod o’r blaen. Gallwch gofrestru ar y dudalen hon i dderbyn yr holl ddiweddariadau newydd ar flaenau eich bysedd.
Brechlyn COVID-19
Mae’r brechlyn COVID-19 Pfizer BioNTech, Astra Zeneca Rhydychen a Moderna wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio. Maent yn frechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol y gellir eu defnyddio yng Nghymru. Mae yna lawer o gwestiynau am y brechlyn COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin. Mae’r dudalen yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.
Gwybodaeth ac adnoddau pellach
Rhestr o gyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru
Gwybodaeth ar gyfer teithio ar draws Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei ganllawiau ar gyfer creu mannau cyhoeddus mwy diogel yn sgil coronafeirws.
Mae Comisiwn Bevan wedi lawnsio ymgyrch Distance Aware, wedi’i ardystio gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn fenter genedlaethol i alluogi unigolion a sefydliadau i annog pellhau parhaus a pharchu gofod cymdeithasol unigol.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi pecyn canllawiau COVID-19 newydd, yn darparu ystod o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i gadw pobl hŷn yn saff. Mae’n cynnwys rhai ffyrdd o nodi pobl hŷn a allai fod mewn perygl, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau allweddol a all ddarparu help a chefnogaeth hanfodol.
Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol – Facebook @disabilitywales a Trydar @DisabilityWales, ein gwefan www.disabilitywales.org a thrwy e-bost.
Parhewch i gysylltu â ni ar 029 20887325 fel yr arfer neu e-bost: info@disabilitywales.org