Anabledd Cymru yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau i bob person anabl.
Ar 23 Mawrth 2026, lansiodd Anabledd Cymru strwythur aelodaeth newydd sy’n cynnwys newidiadau i enwau’r categorïau aelodaeth, gan nodi manteision bod yn aelod o Anabledd Cymru, a dileu costau ymaelodi ar gyfer pob categori aelodaeth.
I ddod i wybod mwy am ein haelodaeth, gwyliwch y fideo isod!
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Mae ein cylch gwaith yn eang ac mae’n cynnwys y pethau hyn:
- Hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar draws pob rhan o’r gymdeithas.
- Ymgyrchu i ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus ac agweddau.
- Creu cymuned ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl, drwy gydweithio i feithrin gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau.
Manteision aelodaeth
Fel aelod, gallwch gael y newyddion diweddaraf am ein cynnydd ac am faterion pwysig. Dyma rai o fanteision bod yn aelod:
- Dangos eich cefnogaeth i’n gwaith
- Cael e-newyddion yn uniongyrchol i’ch blwch e-bost bob mis
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau a phecynnau adnoddau ar gyfer ymgyrchoedd
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau ymgynghori a briffio
- Grwpiau ffocws, digwyddiadau a seminarau
- Cynhadledd a chyfarfod cyffredinol blynyddol
- Cyfleoedd i gymryd rhan mewn paneli trafod a thasgluoedd ar faterion pobl anabl
- Arolwg rheolaidd ymhlith aelodau i lywio blaenoriaethau Anabledd Cymru
Mae manteision eraill hefyd o fod yn sefydliad sy’n aelod o Anabledd Cymru, a’r rheini’n benodol i bob categori aelodaeth.
Bydd pob sefydliad yn cael y manteision a ganlyn:
- Ymrwymo i ymgyrchoedd Anabledd Cymru
- Gall Anabledd Cymru rannu gwybodaeth, sy’n gyson â’n nodau strategol a’n gwerthoedd, ar ran eich sefydliad drwy negeseuon e-bost misol
Mathau o aelodaeth
Gall pob sefydliad ac unigolyn sy’n cefnogi ein nodau strategol a’n gwerthoedd fod yn aelod o Anabledd Cymru.
Aelodaeth Lawn – Sefydliad Pobl Anabl
I fod yn gymwys i fod yn Aelod Llawn – Sefydliad Pobl Anabl, rhaid i gyfansoddiad eich sefydliad nodi bod mwyafrif o 51% o leiaf o aelodau’r sefydliad sy’n pleidleisio yn bobl anabl a, phan fo’n gymwys, bod mwyafrif o 51% o leiaf o aelodau eich Pwyllgor Gwaith neu gorff llywodraethu arall yn bobl anabl.
I gynorthwyo’r sefydliad sy’n gwneud cais ac i sicrhau bod y meini prawf cyfansoddiadol yn cael eu bodloni, bydd pob ceisydd yn cael ei wahodd i gyfarfod â’r Swyddog Busnes ac Aelodaeth i drafod ei gais cyn i Fwrdd y Cyfarwyddwyr ei adolygu.
Manteision bod yn Aelod Llawn – Sefydliad Pobl Anabl:
- Hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol a chyfle i enwebu aelodau i Fwrdd y Cyfarwyddwyr
- Rhestru’r sefydliad ar dudalen we Anabledd Cymru ynghylch Sefydliadau Pobl Anabl, gan gynnwys logo’r sefydliad a gwybodaeth amdano
- Cyfleoedd i gofrestru’n gynnar ar gyfer digwyddiadau penodol
- Mynediad at iaith a therminoleg polisi sylfaenol i gynorthwyo Sefydliadau Pobl Anabl i lunio polisïau yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Sylwch mai llyfrgell ysgrifenedig yw hon. Nid yw Anabledd Cymru’n gallu darparu cymorth polisi 1:1 i gynorthwyo Sefydliadau Pobl Anabl ar hyn o bryd.
Aelodaeth Gyswllt
Unigolion a Chynghreiriaid
Mae hyn yn cynnwys pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.
Sefydliadau ymgysylltiedig
Yn gyffredinol, mae sefydliadau sy’n dod o fewn y categori hwn yn grwpiau llawr gwlad sy’n rhannu gwerthoedd Sefydliadau Pobl Anabl heb iddynt fodloni’r meini prawf cyfansoddiadol. Mae sefydliadau ymgysylltiedig yn cynnwys:
- Grwpiau mynediad
- Clymbleidiau pobl anabl
- Fforymau anabledd
- Grwpiau cymunedau buddiant
- Grwpiau pobl anabl cymdeithasau tai
- Canolfannau byw’n annibynnol
Dyma rai o’r manteision i aelodau ymgysylltiedig:
- Rhestru sefydliadau ymgysylltiedig ar wefan Anabledd Cymru, gyda dolen at eu gwybodaeth ar-lein
- Cyfleoedd i gofrestru’n gynnar ar gyfer digwyddiadau penodol
- Ymrwymo i ymgyrchoedd Anabledd Cymru
Cefnogwyr
Mae sefydliadau sy’n dod o fewn y categori hwn yn sefydliadau mwy ac yn gyrff proffesiynol. Mae sefydliadau cefnogwyr yn cynnwys:
- Cynghorau tref a chymuned
- Cynghorau sir
- Cymdeithasau tai
- Elusennau ag incwm gros o >£1m
- Cyrff proffesiynol
- Gwasanaethau cymorth yn y Trydydd Sector
- Undebau llafur
- Darparwyr gwasanaeth byw’n annibynnol amhariad-benodol (nid-er-elw)
*Sylwch: Yn unol â nodau strategol a gwerthoedd Anabledd Cymru, nid ydym yn derbyn ceisiadau aelodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau er elw, fel cwmnïau gofal preifat a chynghorwyr budd-daliadau sy’n codi tâl.
Dyma rai o’r manteision ar gyfer aelodau sy’n gefnogwyr:
- Cael eu rhestru ymhlith ein cefnogwyr ar ein gwefan
- Ymrwymo i ymgyrchoedd Anabledd Cymru
Cwestiynau cyffredin
Rwy’n aelod unigol. Oes gen i hawliau pleidleisio?
Dim ond gan Aelodau Llawn – Sefydliad Pobl Anabl y mae hawliau pleidleisio. Mae pob math arall o aelod yn Aelod Cyswllt ac, o’r herwydd, ni all bleidleisio.
Fe lenwais y ffurflen gais ar gyfer unigolion, ond dydw i ddim wedi cael e-bost croeso. Oes rhywbeth wedi mynd o’i le?
Peidiwch â phoeni! Rydym yn mewnbynnu ein data aelodaeth â llaw, felly fe all gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith inni brosesu eich aelodaeth ac anfon e-bost croeso atoch.
Mae fy sefydliad yn awyddus i fod yn Aelod Llawn – Sefydliad Pobl Anabl, ond dydyn ni ddim yn siŵr a yw ein cyfansoddiad yn bodloni’r meini prawf.
Mae croeso ichi gysylltu ag Anabledd Cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â bodloni’r meini prawf i fod yn Aelod Llawn – Sefydliad Pobl Anabl.
Mae fy sefydliad wedi gwneud cais i fod yn aelod. Beth yw’r broses?
Pan fydd eich cais yn dod i law, byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch. Bydd pob Sefydliad Pobl Anabl sy’n gwneud cais i fod yn aelod hefyd yn cael gwahoddiad i gwrdd â’r Swyddog Busnes ac Aelodaeth i drafod ei sefydliad a’i gymhwyster. Mae angen i Fwrdd y Cyfarwyddwyr gymeradwyo pob sefydliad sy’n dod yn aelod, ac mae’r Bwrdd yn cwrdd bob dau fis. Felly, gallwch ddisgwyl clywed oddi wrthym hyd at dri mis ar ôl ichi wneud cais cychwynnol. Yn eich e-bost cadarnhau, byddwn yn rhoi gwybod ichi pryd y gallwch ddisgwyl clywed am eich aelodaeth.
Sut allaf i gysylltu â chi os oes gen i gwestiwn? Allaf i gysylltu â’r tîm aelodaeth yn uniongyrchol?
Gallwch gysylltu â’n tîm aelodaeth drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad hwn: membership@disabilitywales.org





