Dywedwch helo wrth ein Sefydliadau Pobl Anabl sy’n Aelodau Llawn!
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yw llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan bobl ag anabledd dysgu ac ar eu cyfer. Mae’n unigryw yng Nghymru gan mai dyma’r unig sefydliad cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan aelodau ac sy’n cynrychioli llais pobl ag anabledd dysgu.
Mynediad Arfon Access
Mae Mynediad Arfon Access yn grŵp o bobl anabl sy’n cwrdd unwaith y mis ar-lein er mwyn gweithio tuag at greu amgylcheddau adeiledig hygyrch a Gwasanaethau Sector Cyhoeddus i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o faterion, rhwystrau a chyfleoedd lleol yng Ngogledd Cymru. Maent yn hyrwyddo anghenion a safbwyntiau pobl anabl leol ac yn cyfrannu at ymgynghoriadau hygyrch ac ystyrlon, gyda’r nod o siapio’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol lle nad yw gwahaniaethau corfforol, gwybyddol, niwrowahanol a synhwyraidd yn rhwystrau rhag cyfranogi, cyfleoedd, iechyd a llesiant.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor a gwasanaeth cyfeirio, yn ogystal â chymorth a chyd-gefnogaeth gan gymheiriaid.

Caffi a Digwyddiadau Aubergine

Caffi a llwyfan celfyddydol sy’n cynnig lle i oedolion awtistig a niwrowahanol yng Nghymru. Mae’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli i oedolion niwrowahanol ac yn cynnal gweithgareddau celfyddydol a digwyddiadau eraill sy’n llwyfannu pobl greadigol sy’n niwrowahanol.
Blesma, the Limbless Veterans

Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd bron i 18,000 o elusennau eu sefydlu, ac mae tua 10 ohonynt yn dal i fodoli heddiw. Mae Blesma yn un ohonynt. Mae Blesma wedi ymrwymo i gynorthwyo dynion a menywod sy’n gwasanaethu nawr ac wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac sydd wedi colli braich neu goes, a hynny wedi newid eu bywyd, neu wedi colli defnydd o fraich neu goes, llygad neu golli golwg. Rydym yn gweithio’n ddiflino dros ein Haelodau pan nad yw’r brwydrau sydd wedi effeithio ar eu bywydau yn ganolbwynt mwyach yng nghyfryngau’r wlad. Ers 1932, ni yw’r unig elusen genedlaethol ar gyfer y Lluoedd Arfog sy’n rhoi cefnogaeth drwy gydol oes i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes.
Cyfeiriwch Gyn-filwyr at Blesma drwy ddefnyddio ein gwefan www.blesma.org neu drwy ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Blesma Cymru a’r Gorllewin a ddarperir ar gais.
DEWIS Canolfan Byw Annibynol

Ei nod yw cefnogi pobl anabl i fyw bywyd annibynnol drwy hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol a thrwy wasanaethau eiriolaeth yr elusen.
Celfyddydau Anabledd Cymru

Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl a phobl Fyddar yn rhan hanfodol o gelfyddydau ein gwlad. Gan weithio yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, rydym yn cynhyrchu celf sy’n rhannu’r profiad uniongyrchol o anabledd, rydym yn datblygu talent greadigol gan bobl anabl a phobl Fyddar, ac rydym yn darparu hyfforddiant ar gynhwysiant a mynediad i bobl anabl.
Disability in Wales & Africa
Mae DWA yn nodi mai ei rôl yw darparu gwasanaethau cymorth, ymgyrchu, hyfforddiant, a gwybodaeth o fewn sector Cymru Affrica ac, yn gynyddol, y tu hwnt iddo.
Er bod DWA yn canolbwyntio ar bobl anabl yng Nghymru ac Affrica fel ei fforwm ar gyfer hyrwyddo undod a rhannu ar draws y byd, mae’n agored i fentrau tebyg eraill sy’n gweithredu y tu hwnt i hynny.

Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Mae FTWW yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan gleifion ledled Cymru ac yn elusen gofrestredig sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag annhegwch iechyd a brofir gan fenywod a phobl sydd wedi’u cofrestru’n fenywod adeg eu geni. Rydym yn darparu cymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth sifil, ac yn cynnig cyfleoedd i aelodau sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn ymchwil, polisi, ac ymarfer perthnasol. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae hawl pawb i iechyd a llesiant da yn cael ei pharchu a’i gwireddu, gyda phawb yn gallu cael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, heb rwystrau.
Grŵp Mynediad Casnewydd

Gall Grŵp Mynediad Casnewydd helpu unigolion a/neu grwpiau/neu sefydliadau sydd angen darparu mynediad i’r rheini sydd â gofynion ychwanegol.
See Around Britain

Mae See Around Britain yn elusen fach sy’n cael ei rhedeg gan bobl anabl/pensiynwyr. Mae ganddi wefan arloesol ar gyfer teithio gyda chasgliad o luniau wedi’u trefnu yn ôl lleoliad daearyddol, ar draws y DU, Iwerddon ac Ewrop, sy’n gwbl gynhwysol, ac mae’n adnodd gwybodaeth hanfodol i helpu dinasyddion hŷn ac anabl i fyw’n annibynnol.
Cymdeithas Cefnogwyr Anabl yr Elyrch

Cenhadaeth Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yw helpu i greu amgylchedd hygyrch a chynhwysol i bob cefnogwr, gan alluogi’r rheini sydd ag anableddau i gael yr un profiad ar ddiwrnod gêm â phobl nad ydynt yn anabl.
Rydym yn ceisio grymuso cefnogwyr anabl i gael llais i ddylanwadu ar newid o fewn y clwb pêl-droed.
Ar ben hynny, nod ein Cymdeithas Cefnogwyr Anabl yw rhoi cyfleoedd i’n cefnogwyr anabl ddod at ei gilydd i hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a phwrpas cyffredin.
Mae bod yn gyswllt rhwng cefnogwyr anabl a’r clwb yn sicr o fudd i bawb.
The Autistic Women’s Empowerment Project

Ein nod yw grymuso menywod a merched awtistig drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus yn eu bywydau a goresgyn y rhwystrau y gall cymdeithas eu gosod o’u blaenau.
Yn bwysicach na hynny, ein nod hefyd yw croesawu a thynnu sylw at ddoniau a thalentau menywod Awtistig a grymuso pob menyw ni waeth lle maent ar y sbectrwm.
The FDF Centre for Independent Living
Mae’r FDF yn darparu cyngor, gwybodaeth, eiriolaeth a gwasanaeth cyfeillio i bob person anabl ar draws 6 sir Gogledd Cymru, gan eu cefnogi i fyw’n annibynnol.
Mae Canolfan Byw’n Annibynnol y FDF yn cynnig atebion ymarferol ar gyfer chwalu’r rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol sy’n ein hanalluogi, gan gynnwys ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyflogaeth, trafnidiaeth a mynediad at yr amgylchedd, budd-daliadau, costau byw, ymgyrchu, a grymuso.

Fforwm MynediadTorfaen Access Forum

Codi ymwybyddiaeth o’r ystod eang o heriau sy’n wynebu pobl yn Nhorfaen sy’n byw gydag anabledd; dod ag elusennau anabledd, grwpiau lleol a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd; cefnogi pobl ag anableddau a darparu gwasanaeth rhannu gwybodaeth.
West of England Centre for Inclusive Living

Rydym yn sefydliad o bobl anabl sy’n gweithio gyda’i gilydd i alluogi dewis. Rydym yn herio’r rhwystrau i fyw’n annibynnol drwy ddarparu cymorth a chyngor o ansawdd uchel.
Lleisiau Ifanc dros Ddewis
Mae Lleisiau Ifanc dros Ddewis yn fforwm ieuenctid ar gyfer pobl ifanc ag anableddau/anghenion dysgu ychwanegol. Maen nhw’n dod at ei gilydd i dynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar eu bywydau, a’u trafod.
Mae’r grŵp yn rhoi cyfleoedd i sefydliadau, cwmnïau a gweithwyr proffesiynol ymgynghori ag aelodau’r fforwm ieuenctid a chael gwybod beth yw eu barn a’u safbwyntiau.
Mae’r bobl ifanc yn dod at ei gilydd i greu a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o faterion y mae pobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau yn eu hwynebu.

Mae’r grŵp hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i gymdeithasu a chwrdd â phobl ifanc eraill, ond yn bwysicaf oll, cyfleoedd i gael hwyl!





