Oes gennych chi beth mae’n ei gymryd i fod yn aelod nesaf o dîm Anabledd Cymru? Rydym yn chwilio am rywun i gynrychioli AC fel Rheolwr Cyllid a Gweithredu.
Bydd y rôl parhaol hon yn eich cyflwyno i dîm cefnogol a deinamig
Rydym yn dîm bychan, ond yn llawn nerth ac uchelgais. Rydym wedi ymrwymo i ymdrechu i sicrhau hawliau a cydraddoldeb pobl anabl yng Nghymru.
Mae yna ddigon o fuddion eraill hefyd a fydd yn caniatáu ichi daro’r cydbwysedd cywir rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Swydd: Rheolwr Cyllid a Gweithredu
Cyflog Graddfa NJC 32~34 £35,575 – £37,890 (£28,460 pro rata)
Cytundeb: Parhaol
Eich cyfrifoldebau: Sicrhau bod AC yn rhedeg yn llyfn ac effeithlon wrth arwain ym mhob maes ariannol, yn cynnwys cynllunio, datblygu ac adrodd ar gyllidebau, rheoli cyfrifon a gweithgaredd a rhaglenni cyflogres; pob mater gweithredol yn cynnwys adnoddau dynol, iechyd a diogelwch a thechnoleg gwybodaeth.
Sector: Swyddog Cyllid a Gweinyddiaeth; Swyddog Cyfranogiad
Oriau gwaith: 28 awr yr wythnos
Lleoliad Swyddfeydd AC, Caerffili (gweithio gartref ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19)
_________________________________
Oes gennych chi ddidordeb? Mae pob dim rydych angen ei wybod, yn cynnwys disgrifiad swydd a manylion personol, ar gael isod.
Fel arall, gallwch gysylltu â ni i gael pecyn cais yn y fformat sydd orau i chi.
Ffōn: 029 2088 7325 (defnyddiwch y cyhoeddwr ar gyfer ffôn testun),
Ffacs: 029 2088 8702
E-bost: emma.cooksey@disabilitywales.org
Dyddiad Cau: 5yh ar y 23ain o Ebrill.
Dyddiadau cyfweliad: 5ed o Fai
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy’n cwrdd â’r meini prawf, felly beth ydych chi’n ddisgwyl amdano? Gwnewch gais heddiw!