Ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd? Oes gennych chi syniadau creadigol a all symud ein sefydliad ymlaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd.
Anabledd Cymru (AC) yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru, yn ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobl anabl. Trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd, gallwch helpu i lunio ein dyfodol.
Rydyn ni angen lleisiau newydd i hyrwyddo a lobïo newid ac felly rydym yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau ar y Bwrdd. Fel sefydliad, rydym am adlewyrchu’r gymuned gyfan o bobl anabl yng Nghymru.
Ein nod fel Sefydliad Pobl Anabl yw dangos arfer da mewn llywodraethu. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu yn ogystal â chynyddu eu doniau trwy ystod o gyfleoedd.
Pam ddylech chi wneud cais?
Angen ychydig eiriau o anogaeth cyn cyflwyno’ch cais? Gwyliwch y fideo byr hwn i glywed rhai o’n Cyfarwyddwyr presennol yn siarad am yr hyn y mae bod yn aelod bwrdd yn ei olygu a pham nawr yw’r amser i ymuno.
Gwybodaeth bellach
Teitl y rôl | Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr |
Yn atebol i: | Cadeirydd a Chyfarwyddwyr y Bwrdd |
Tymor: | Cyfarwyddwyr etholedig – tair blynedd (amodol ar ofynion cylchdroi blynyddol aelodau’r Bwrdd) Cyfarwyddwyr apwyntiedig – 1 blwyddyn (ailbenodi’n destun cytundeb blynyddol gan y Bwrdd yn dilyn y cyfarfod cyffredinol) |
Diben: | Ar y cyd â’r Cyfarwyddwr/Ymddiriedolwyr eraill, cyfrifoldeb am ddatblygu polisïau a gwaith AC; rheoli’r corff yn cynnwys arian a’r bobl; a gwasanaethu diddordebau AC ar bob amser. |
Ymrwymiad: | Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd, gan gymryd rhan yn y trafodaethau a chyfrannu at benderfyniadau; darllen y papurau ymlaen llaw; mynychu rhaglenni hyfforddiant sefydlu ac eraill yn ôl yr angen; cymryd rhan yn y gwerthusiad blynyddol a chyfweliadau datblygu personol gyda’r cadeirydd. |
Dyddiad cau: 30ain o Fedi 2022
Cyfweliadau: 12fed o Hydref 2022
Mae’r pecyn recriwtio isod yn darparu mwy o wybodaeth am rôl y Bwrdd a bod yn Gyfarwyddwr. Mae hefyd yn manylu sut i ymgeisio i fod yn aelod Penodedig o’r Bwrdd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni i ymdrechu am Gymru mwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw! Rydym yn edrych ymlaen i glywed gennych.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 029 20887325 neu e-bostiwch info@disabilitywales.org.