Shaun Bendle
Swyddog Prosiect Llais Cyfartal, Pŵer Cyfartal

Shaun yw’r Swyddog Prosiect Mentora newydd sy’n gweithio fel rhan o’r rhaglen fentora Llais Cyfartal, Pŵer Cyfartal.
Rhaglen bartneriaeth yw hon rhwng WEN Wales, Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru (EYST), a Stonewall Cymru. Bydd y prosiect yn recriwtio ac yn mentora menywod amrywiol, pobl BAME, pobl anabl, a phobl LGBT i fod yn rhan o fywyd cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu ein sefydliadau gwleidyddol a chyhoeddus i adlewyrchu dinasyddion amrywiol Cymru yn well.
Enillodd Shaun raddau Israddedig a Meistr o Brifysgol Abertawe. Mae’n gweithio’n rhan amser i Anabledd Cymru wrth gwblhau PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.