Araith Yr Athro Mark Drakeford AC yn Cynhadledd Anabledd Cymru

Trawsgrifiad palanteipydd

 

Araith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr Athro Mark Drakeford AC

Seminar Blynyddol Anabledd Cymru

Rydych wedi Galw am Chwyldro:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru)

Gwesty Copthorne, Caerdydd

8 Hydref 2015

 

 

Bore da. Diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad a’r cyfle i fod yma heddiw.

Roedd yn amlwg y byddai’n brofiad anarferol pan welais fod y rhaglen yn cynnwys dau gyfraniad gan y comedïwr Ted Shiress. Roedd fy swyddfa yn y Bae yn chwerthin o weld fy mod yn rhannu llwyfan gyda chomedïwr, gan dreulio’r wythnos gyfan yn dweud pa mo ddewr oeddwn i gytuno i siarad yma! Mae wedi fy atgoffa o stori wleidyddol enwog, a gan fod gohebydd o bwys yn y gadair, roeddwn yn meddwl y  byddai’n werth ei rhannu gyda chi.

Dyma stori o’r 1980au cynnar pan oedd Mrs Thatcher yn brif weinidog, adeg isetholiad mewn etholaeth yn Blackpool. Bryd hynny, roedd isetholiadau yn cael lot o sylw, gyda’r cyfryngau a’r wasg genedlaethol yn heidio i’r ardal.

Roedd y Torïaid wedi dewis gyrrwr bws fel ymgeisydd lleol. Cyflwynwyd i’r cyfryngau mewn cynhadledd i’r wasg ble byddai Ken Dodd, un o brif gefnogwyr lleol y Torïaid hefyd yn bresennol.

 

Felly, cynhaliwyd y gynhadledd, gyda’r gyrrwr bws yn amlwg yn methu crybwyll polisïau’r Blaid cystal ag y gallai’r amserlen bysys lleol, gan wynebu cyfnod eitha’ anodd o flaen y wasg. Anfonwyd Willy Whitelaw, y dirprwy brif weinidog, i fyny i reoli’r ymgyrch leol. Ar ôl gorffen holi’r gyrrwr bws, gyda Ken Dodd i ddilyn, mae’n debyg roedd Mr Whitelaw wedi troi at y wasg a dweud: “Yn awr, dyma ni’n troi at gomedïwr proffesiynol.” Neu gomedïwr proffesiynol, yn dibynnu ar eich barn.

Dyna fy unig ymgais i ddweud jôc, byddwch yn falch o wybod! Yn ôl y disgwyl, am weddill yr amser rwyf am ganolbwyntio ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), a roddwyd ar y llyfr statud yn 2014 yn barod i’w gweithredu ar 6 Ebrill 2016. Deddf nodedig iawn.

Pedwerydd tymor y Cynulliad yw’r cyntaf i ni fwynhau pwerau deddfu llawn yng ngwir ystyr hynny. Arweiniodd refferendwm ym Mawrth 2011 at alluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar yr un sail ag unrhyw ddeddf yn San Steffan. Ac i mi, nid damwain yw’r ffaith ein bod wedi defnyddio’r pwerau hynny am y tro cyntaf i wneud gwasanaethau cymdeithasol yn destun y darn mwyaf o ddeddfwriaeth i’w drafod gan y Cynulliad y tymor hwn. Yn sicr, yn nhermau maint a sgôp, y Ddeddf hon yw’r darn mwyaf o ddeddfwriaeth bydd y Cynulliad wedi taclo… ac mewn rhai ffyrdd ymhlith y mwyaf dwys o ran yr effaith bydd yn cael ar fywydau pobl.

Bydd llawer ohonoch yn yr ystafell hon yn gwybod ein bod, ers rhoi’r Ddeddf ar y llyfr statud, wedi bod yn gweithio i drefnu’r manylion angenrheidiol er cynnal y ddeddfwriaeth o fewn y system. Felly, mae’r Ddeddf ei hun yn ddarn mawr o ddeddfwriaeth ond y manylion, sef sut bydd hi’n gweithredu’n ymarferol, yn dibynnu ar y rheoliadau fydd yn deillio ohoni, ar gyfarwyddiadau statudol ac ar y cod ymarfer. Ac mae’r rheiny’n cynrychioli llawer o waith. Ac rydym wedi ymgynghori ar ddau becyn o reoliadau bydd angen eu trefnu erbyn dyddiad gweithredu’r Ddeddf ym mis Ebrill nesaf.

Ymgynghorwyd ar y pecyn cyntaf o reoliadau a’u trafod yn y Cynulliad cyn gwyliau’r haf ac rydym newydd gau’r ail becyn ymgynghori, gyda’r nod o gael y Cynulliad i drafod y rheoliadau ym mis Tachwedd. Ac os aiff popeth yn iawn, bydd y rheoliadau’n cwblhau eu taith drwy’r Cynulliad cyn y Nadolig, sy’n golygu bydd popeth yn ei le i weithredu’r Ddeddf ar 6 Ebrill.

Nawr, rwy’n gwybod mai dim ond tri neu bedwar mis sydd cyn gweithredu’r Ddeddf, ond gyda chymorth ein partneriaid… sef awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r trydydd sector… rwy’n hyderus byddwn yn glir iawn o ran sut i weithredu amodau’r Ddeddf. Bydd y llyfr rheolau yn ei le a bydd digon o amser ar gael er galluogi pawb i baratoi ar gyfer ei gweithredu.

Ni ddylai unrhyw un ddychmygu bydd y maes gwasanaethau cymdeithasol yn gweddnewid ar 6 Ebrill. Yn hytrach, dyna pryd bydd y broses o weithredu’r Ddeddf yn dechrau. Ac mae’r Ddeddf yn ymwneud gymaint â newid diwylliant â’r elfennau gwahanol o fewn y  ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, mae’r elfennau hynny’n bwysig; yn bwysig iawn i bobl yn yr ystafell hon ac i’r cyrff rydych yn cynrychioli. Elfennau megis taliadau uniongyrchol, asesiadau ariannol, eiriolaeth a mentrau cymdeithasol. Pob un ohonynt yn bethau mae mudiad anabledd Cymru wedi cael dylanwad sylweddol ar ddatblygu’r rheoliadau a’r cod ymarfer, a’r cyfarwyddiadau drwy’r Ddeddf.

Felly, rwy’n ddiolchgar iawn i’r unigolion a’r cyrff hynny sydd wedi’n helpu drwy’r cyfnod ymgynghori er mwyn llunio Deddf cystal ag y gallwn, yn cynnwys dros 200 cyfraniad at yr ail gymal ymgynghori gan gyrff ar draws y wlad.

Rwy’n credu byddai’r cyhoedd yn synnu o weld pa mor ddifrifol yw’r llywodraeth wrth drafod ymgynghoriadau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi darllen pob ymateb i’r ymgynghoriadau; gan adrodd pob un i mi yn nhermau’r sylwadau a fynegwyd ynddynt; mae pob un wedi cael dylanwad ac effaith o ryw fath ar y codau terfynol a’r cyfarwyddiadau byddwn yn dosbarthu. Bydd rhai ohonoch yn deall nad y codau oedd yn destun yr ymgynghori fydd y codau a gadarnheir gan y Cynulliad, oherwydd byddant wedi’u diwygio gan y broses ymgynghori.

Ac fel y dywedodd Rhian, roeddwn yn falch iawn o allu ymateb yn bositif i bryderon a fynegwyd gan gyrff fel Anabledd Cymru yn ystod y broses ymgynghori ynglŷn â’r angen i drefnu fframwaith statudol i gefnogi amodau’r Ddeddf, er sicrhau byddai Confensiwn Hawliau Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig yn rhan gadarn o’r codau ymarfer. Byddwch yn gweld ein bod wedi cytuno hynny a bydd hynny’n cael ei weithredu. A phan welwch ganlyniadau’r ail gymal ymgynghori, rwy’n gobeithio byddwch yn falch o weld ein bod wedi gallu ymateb yn bositif i alwadau gan Anabledd Cymru ac eraill i gryfhau cynrychiolaeth dinasyddion ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sef peiriannau gweithredu llawer o amodau’r Ddeddf. Dyma’r byrddau partneriaeth rhanbarthol ble byddwn yn dwyn ynghyd uwch reolwyr o’r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o’r trydydd sector ac yn awr – pan gyhoeddir y canlyniadau – yn cryfhau llais ein dinasyddion ar y lefel honno fydd yn cymryd y penderfyniadau ar weithredu’r Ddeddf yn ymarferol. Bydd y broses wedi’i chwblhau erbyn y Nadolig, gan symud ymlaen wedyn i wneud y paratoadau terfynol ar gyfer gweithredu’r Ddeddf.

Roeddwn am drafod rhywbeth arbennig y bore ‘ma. Nid yn unig manylion y Ddeddf, a sut byddwn yn ei gweithredu. Ond beth sy’n gefn i’r Ddeddf, oherwydd dyna beth yw’r peth pwysicaf. Sef ffordd newydd o ystyried sut byddwn yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau cymdeithasol. Cyflwynwyd model newydd yn y fideo a ddangoswyd y bore ‘ma – cyflwyniad crefftus yn fy marn i – oherwydd mae’n seiliedig ar gymryd rhai negeseuon pwysig o sut mae’r mudiad anabledd wedi datblygu model cymdeithasol o’r gwasanaethau sydd angen eu darparu, a’i rhoi fel rhan hanfodol o sut byddwn yn darparu gwasanaethau cymdeithasol statudol a gwirfoddol. Man cychwyn y Ddeddf oedd y farn a gymrwyd am bobl sy’n gofyn am gymorth – nad problemau i’w datrys oeddynt. Eu bod yn bobl gyda chryfderau a rhinweddau sydd wedi ymdopi’n llwyddiannus drwy gyfnodau hir yn eu bywydau. Ac yn awr, pan fyddant angen cymorth, ein gwaith yw dechrau o safbwynt eu cryfderau a rhinweddau.

Mae pobl yn bartneriaid cydradd o ran cynllun y Ddeddf hon. Ni fyddant yn destun goddefgar o gonsyrn i’r bobl sy’n darparu gwasanaethau. Byddant yn gyfranogwyr cydradd sy’n cynnig sgiliau, gwybodaeth, arbenigedd a phrofiadau bywyd, a ddefnyddir mewn menter ar y cyd â’r bobl yn darparu’r gwasanaethau.

Onid yw hyn yn ymwneud â throsglwyddo grym? Dyna beth mae’r mudiad anabledd wedi’n dysgu am sut maent yn gweithredu. Yn y bôn, mae’n ymwneud â thaclo sut byddwn yn dosbarthu a gweithredu grym rhwng y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau a’r rhai sy’n eu darparu. Nod y ddeddf hon yw democrateiddio a chydraddoli dosbarthiad grym ar draws y system.

Felly, pan fydd rhywun yn dod drwy’r drws, ni ddylid gofyn beth allwn wneud i chi heddiw? Oherwydd mae hynny’n wahoddiad i drosglwyddo’r mater er mwyn i’r gwasanaeth reoli’r sefyllfa. Y cwestiwn dylid gofyn yw: Beth allwn ni wneud heddiw? Ar y cyd? Gyda’n gilydd? Fel ein bod yn crynhoi arbenigedd y darparwr gwasanaeth a’r person yn ei ddefnyddio. Nid trosglwyddo’r mater o un ochr o’r bwrdd i’r nesaf, ond ei roi yng nghanol y bwrdd, ble bydd y ddwy ochr yn ei berchnogi ac yn derbyn cyfrifoldeb ar y cyd i wneud cyfraniad at daclo’r broblem a symud y peth ymlaen yn eu bywydau.

Y gair a ddefnyddiwyd yn y fideo – gair rwyf wedi nodi fan hyn – oedd galluogi pobl i reoli eu bywydau. Nid mater o wneud pobl yn destun gwasanaethau fydd wedyn o’u hanfod yn cymryd drosodd rheolaeth o bobl fyddai fel arall yn edrych ar ôl eu hunain. Nod y Ddeddf yw ceisio sicrhau bydd pobl yn gallu teimlo, gymaint â phosibl, eu bod yn rheoli’r pethau pwysicaf iddynt, gyda’r berthynas ar y cyd yn elfen ganolog o’r diwylliant bydd y Ddeddf yn ceisio cynnal. Felly, “Dim byd amdanom ni hebddo ni”. Rwy’n credu gallai honno fod yn slogan yn llifo drwy’r graig bydd y Ddeddf hon yn ceisio sefydlu.

 

Gadewch i mi ymateb yn gryno i un neu ddau o’r pethau a godwyd yn y fideo. Nid oes modd anwybyddu’r ffaith ein bod yn byw yn y cyfnod mwyaf anodd bydd unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon wedi profi yn nhermau’r arian ar gael i wneud pethau hanfodol yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2015 wedi gostwng i’r un lefel ag yr oedd yn 2005. Felly 10 blynedd yn ddiweddarach, gyda’r galw am wasanaethau hanfodol a dymunol wedi cynyddu, rydym yn gorfod ymdopi ar yr un arian a dderbyniwyd ddegawd yn ôl.

Yn ogystal â’r toriadau a gyhoeddwyd eisoes, bydd cyfres newydd ar y ffordd ddiwedd Tachwedd ar ffurf datganiad hydref y Canghellor. Rwy’n sicr o hynny. Ond hyd yn oed gyda’r toriadau sydd eisoes yn hysbys, rydym ond 40% drwyddynt. Felly, nid ydym wedi cyrraedd gwaelod y cwm ac yn barod i ddringo’r ochr draw, nid ydym wedi cyrraedd y llawr eto… pan fydd y toriadau’n cael effeithiau uniongyrchol, ar fywydau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd â’r rhai yn eu darparu.

Yn gyffredinol, ni ddarperir gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan staff ar gyflogau enfawr. Mae’r rhan helaeth o’r staff ar gyflogau cymedrol. Cymru sydd â’r ganran uchaf o deuluoedd un cyflog yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r person ar y cyflog hwnnw’n debyg o fod yn fenyw. Menyw sy’n rheoli’r holl alwadau ar y teulu hwnnw, ac yn ymdopi ar incwm sefydlog tra bod costau’n cynyddu.

Mae’r fath bwysau ar ein system yn gyffredin ar draws y wlad. Felly, mae unrhyw syniad bod help ar gael gan y ‘cavalry’ dros y bryn, gydag arian ar gael i hwyluso popeth sydd angen gwneud – nid yw’n wir.

Yng Nghymru rydym wedi diogelu ein cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol ochr yn ochr â’n cyllidebau iechyd. Mae’n debyg byddwch wedi clywed pobl yn beirniadu ein penderfyniad i beidio diogelu cyllideb gwasanaeth iechyd Cymru; yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig. Ond yng Nghymru rydym wedi ceisio diogelu cyllidebau’n gyffredinol. Yn achos pobl unigol, nid oes pwynt diogelu cyllidebau’r gwasanaeth iechyd ond iddynt ddarganfod ein bod wedi gostwng cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn ceisio dangos bod y gwasanaeth iechyd wedi cael bargen well. Yng Nghymru rydym wedi cydnabod anghenion defnyddwyr, gan geisio darparu gwasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau ac ar gael i chi, dim ots pa ran o’r system byddwch angen ar y pryd. O ganlyniad, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn dal 8% yn uwch ar ran pob person unigol nag yw tu hwnt i Glawdd Offa.

Rydym wedi gwneud hynny’n rhannol wrth ddiogelu’r arian bydd angen i weithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Neilltuwyd £3 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ac os ar ôl 25 Tachwedd, a thoriadau nesaf y Canghellor, byddwn yn gallu parhau i wneud hynny dros y tair blynedd ariannol nesaf, dyna ein bwriad fel Llywodraeth Cymru.

Gadewch i mi gloi wrth dalu teyrnged i ddylanwad Anabledd Cymru a chyrff anabledd eraill ar y Ddeddf a’r ffordd byddwn yn ei gweithredu.

Yn nyddiau cynnar datganoli – ac rwyf wedi bod yn y Cynulliad mewn gwahanol rolau ers 2000 – rwy’n cofio pobl yn synnu o weld cyrff yn gallu cysylltu’n gyflym â’r bobl oedd yn gyfrifol am benderfyniadau a deddfau mewn modd nad oedd yn bosibl pan redwyd y wlad gan y Swyddfa Gymreig, gyda thri gweinidog oedd yn anochel yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn Llundain, nid yng Nghymru. Yn wir, treuliodd John Redwood fwy o nosweithiau yn y Dordogne nag yng Nghymru!

Yn gynnar yn oes datganoli, daeth pawb yn fwy cyfarwydd â’r agosatrwydd rhwng bywyd dinesig a bywyd trigolion yng Nghymru. Rydym wedi arfer â hynny erbyn hyn. Ond mae’n dal yn rhywbeth y mae gweddill y Deyrnas Unedig yn teimlo’n eiddigeddus ohono, sef ein gallu i ddod ynghyd i drafod – “Dim byd amdanom ni hebddo ni” – nid yw hynny’n gweithio yng ngweddill y Deyrnas Unedig fel y mae yng Nghymru.

Mae effaith Anabledd Cymru a chyrff eraill wedi profi’n enfawr o’r cychwyn, gyda’r pecyn adnoddau (tool kit) a dylanwad hwnnw’n parhau, drwy’r grwpiau technegol yn y ffordd roedd Anabledd Cymru wedi cael dylanwad ar fanylion gweithredu’r Ddeddf. A’r gwaith cyffrous iawn i sefydlu mentrau cydweithredol dan arweiniad dinasyddion, rhywbeth nad yw’n digwydd yng ngweddill y Deyrnas Unedig, a rhywbeth rwy’n awyddus i weld ffrwyth eich llafur. Wrth newid taliadau uniongyrchol o gymorth i rwyfo cwch eu hunain drwy fywyd, i sefyllfa ble bydd pobl yn gallu defnyddio taliadau uniongyrchol ar y cyd wrth rannu risgiau a buddion. Mae’n broject cyffrous iawn, gydag Anabledd Cymru yn chwarae rhan ganolog ynddo. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dibynnu ar Anabledd Cymru hefyd i ddarparu hyfforddiant ar gyfer awdurdodau lleol ar draws y wlad ar Gonfensiwn Hawliau Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig er mwyn eu hysbysu o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Felly, diolch yn fawr am wrando mor astud. Diolch am ddod yma heddiw, am eich ymroddiad i’r agenda hwn ar ran pobl ar draws y wlad fydd yn elwa o amodau’r Ddeddf. Hebddo chi, ni fyddwn wedi gallu cymryd y camau mawr a gyflawnwyd hyd yma. Rwyf wedi darllen trwy weddill y rhaglen ac mae’n edrych yn ddiddorol a chyffrous iawn. Rwy’n gobeithio byddwch yn cael diwrnod defnyddiol iawn.

Diolch am y cyfle i siarad gyda chi’r bore ‘ma.

Leave a Reply

Become a member today and become part of what we do

Members