Project arloesol i hybu hawliau pobl anabl Cymru: Mentrau Cydweithredol dan Arweiniad Dinasyddion

About Citizen Directed Co-operative Cymru Project logo

Bydd Anabledd Cymru & Canolfan Cydweithredol Cymru yn dathlu lansiad swyddogol eu project heddiw am 12:00pm yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd gyda’r Athro Mark Drakeford AC, gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac Aled Roberts AC, noddwr y digwyddiad.

Mae’r project wedi denu cefnogaeth o wledydd tramor a byddwn yn croesawu’r siaradwr gwadd Dr Adolf Ratzka, sylfaenydd menter cymorth personol STIL, Sweden, fydd yn rhannu ei arbenigedd o ran sut mae mentrau cydweithredol yn helpu pobl anabl i fwy’n annibynnol.

Cyllidir y project gan gronfa arloesi’r Loteri Fawr tan fis Mawrth 2018, gan ddarparu dull newydd o reoli taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl anabl, wrth roi mwy o reolaeth i bobl dros eu hanghenion cymorth.

Wrth groesawu’r project arloesol, dywedodd yr Athro Mark Drakeford AC;

Wrth gydweithredu fel hyn a darparu cyfarwyddwyd ymarferol byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth o roi mwy o reolaeth i’n dinasyddion a’u helpu i fyw’n annibynnol yn y gymuned.

“Felly, mae’n addas mai yng Nghymru bydd y fenter gyntaf i helpu pobl anabl gyda’u taliadau uniongyrchol drwy gyfrwng menter gydweithredol. Llongyfarchiadau i Anabledd Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru am y weledigaeth i ddatblygu’r enghraifft wych hon o gydweithio mewn partneriaeth.”

Mae Aled Roberts AC, noddwr y digwyddiad, wedi cynnig ei gymorth i’r project:

“Mae taliadau uniongyrchol yn arf pwysig i helpu pobl anabl i fyw’n annibynnol. Bydd y project arloesol yma’n rhoi cyfle i bobl anabl gael mwy o reolaeth dros eu bywydau a’r cymorth byddant yn derbyn.”

Dywedodd prif weithredwraig Anabledd Cymru Rhian Davies; “Mae’n gyfnod cyffrous i Anabledd Cymru ac rydym yn croesawu’r gefnogaeth genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer y project yma.

Rydym hefyd yn hynod falch o gael cyllid gan y Loteri Fawr. Bydd y project yn symbylu’r drafodaeth am daliadau uniongyrchol, gan roi mwy o reolaeth i bobl anabl dros eu bywydau.” 

Canolfan Cydweithredol Cymru yw’r corff gydag arbenigedd ym maes datblygu mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol. Dywedodd Derek Walker, y prif weithredwr:

“Ym marn Anabledd Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, bydd mentrau cydweithredol fel hyn yn galluogi pobl i reoli gwasanaethau eu hunain. Bydd y project arloesol yma’n helpu pob anabl i fyw bywydau mwy annibynnol. Bydd y drefn newydd nid yn unig o dan arweiniad dinasyddion ond hefyd yn destun perchnogaeth a rheolaeth dinasyddion.”

Bydd y project yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl anabl ar draws y wlad. “Fel person sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, mae’n dda clywed bod y project yn cael ei gyflwyno yng Nghymru” esboniodd Trevor Palmer, aelod o fwrdd Anabledd Cymru. “Bydd yn rhoi cyfle i bobl anabl fwynhau bywydau mwy annibynnol”.

 

Manylion pellach am y project yn www.disabilitywales.org.uk neu galwch Rebecca Newsome ar 029 2088 7325.

Big Lottery logowales co-op logo

Leave a Reply

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members