Newydd phenodi’n Gomisiynydd i Gymru y CCHD

Neges gan Kate Bennett:

June Milligan wedi ei phenodi’n Gomisiynydd i Gymru y CCHD

 

Annwyl Gyfeillion,

 

Rwy’n falch dros ben i gyhoeddi bod June Milligan wedi ei phenodi fel ein Comisiynydd newydd i Gymru.

 

Mae gan June brofiad helaeth o amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd ei gwybodaeth o Gymru a’i phenderfyniad i newid bywydau pobl er gwell yn sylfaen gadarn iddi ar gyfer y swydd bwysig hon.

 

Mae June yn tynnu ar ei phrofiad a’i dealltwriaeth o ystod eang o swyddi arweiniol ym maes gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys fel Llywodraethwr mewn carchardai hirdymor a diogelwch eithaf, fel Diplomydd yn cynrychioli’r DU i sefydliadau Ewropeaidd ym Mrwsel, ac fel cynghorydd polisi i Weinidogion, ac fel Prif Ysgrifennydd Preifat.

 

Yn fwyaf diweddar gwasanaethodd June fel Aelod Bwrdd y Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, gyda chyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Cyffredinol a Swyddog Cyfrifyddu dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, ac ar gyfer arwain a hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

 

Mae June ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwr yr Young Foundation, ac yn aelod lleyg corff llywodraethol Prifysgol Glasgow.

 

Edrychwn ymlaen at groesawu June i’w rôl newydd.

 

Kate Bennett
Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Gymru

 

Yn dilyn ei phenodiad, meddai June Milligan:

Rwy’n falch i gael fy mhenodi fel Comisiynydd y Comisiwn i Gymru. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ran allweddol wrth sicrhau tegwch, urddas a pharch i bobl ledled Prydain. Edrychaf ymlaen at weithio gyda thîm Cymru’r Comisiwn a chyda’r holl sefydliadau a phobl yng Nghymru sy’n rhannu’r ymrwymiad ymarferol hwnnw o hybu cydraddoldeb a hawliau dynol.

 

Leave a Reply

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members