Mesur y Mynydd – Deall Profiadau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Mae Mesur y Mynydd yn brosiect Cymru gyfan i werthuso effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n gydweithrediad rhwng y sector gyhoeddus, y drydedd sector ac, yn fwyaf pwysig, y bobl sy’n byw yma.

Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn casglu straeon oddi wrth bobl â phrofiad diweddar o ofal cymdeithasol er mwyn creu darlun o sut mae gofal cymdeithasol yn teimlo ar gyfer yr unigolion sy’n rhan ohono.

Mae tîm Mesur y Mynydd yn gobeithio gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru, i roi gwybod i bobl am y prosiect a hefyd i helpu i greu rhwydwaith o Wrandawyr. Bydd Gwrandawyr yn helpu pobl i rannu’u straeon a byddant yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau fod modd i bawb sydd â stori i’w hadrodd allu’i rhannu. Gall Gwrandawyr fod yn staff neu wirfoddolwyr: bydd modd i wirfoddolwyr ymuno â rhwydwaith Credydau Amser Spice ac ennill Credydau Amser am y straeon a gasglwyd ganddynt.

Os oes gennych chi stori i’w rhannu, neu os ydych chi’ gwybod am eraill sydd â stori i’w rhannu, cymerwch ran os gwelwch yn dda.

Bydd Mesur y Mynydd yn rhannu’r canfyddiadau â Llywodraeth Cymru, gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, cyfranogwyr a, thrwy gyfrwng y wefan a chyflwyniadau, â phobl yng Nghymru. Ym mis Medi, bydd y prosiect yn cynnal Rheithgor Dinasyddion yn Stadiwm Liberty, Abertawe, i graffu ar faterion allweddol sy’n codi o’r straeon. Bydd aelodau’r cyhoedd yn archwilio cwestiwn polisi, yn dod i ganlyniadau ac yn cyflwyno’u hargymhellion.

Gellir cael gwybodaeth bellach am bob agwedd o’r prosiect, gan gynnwys sut i fod yn Wrandawr, rhannu stori neu gymryd rhan yn y Rheithgor Dinasyddion, ar wefan Mesur y Mynydd www.mtm.wales / www.mym.cymru

Neu gallwch gysylltu â rheolwr y prosiect, Katie – kcooke@interlinkrct.org.uk / 07964 407 739

Become a member today and become part of what we do

Members