Cynhadledd y Gyfnewidfa Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 9 Mehefin, 2016

Gweithlu i’r dyfodol – heriau a chyfleoedd

Cynhadledd y Gyfnewidfa Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

9 Mehefin, 2016, Llandrindod

 

Prif Siaradwyr:

David Robinson OBE, Cadeirydd y Tasglu Cenedlaethol dros Weithredu’n Gynnar ac Uwch Gynghorydd i Community Links.

Karyn McClusky, Cyfarwyddwr Uned Cyfyngu Trais yr Alban.

Alison Phillips, Prif Weithredwr Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus.

Stori ddigidol newydd ac adnoddau ar greu gweithleoedd sy’n ystyried ffydd.

 

Ar ôl bod yn y gynhadledd hon bydd cynadleddwyr:

  • yn glir ynglŷn â’r heriau cyflogaeth sy’n ein hwynebu dros y bum mlynedd i ddod
  • yn deall y math o arweinyddiaeth sy’n ofynnol i wneud cynnydd o ran cydraddoldeb a hawliau dynol
  • yn cael goleuni pellach ar sut i symud cydraddoldeb i agenda ataliol
  • yn deall sut i greu gweithleoedd sy’n fwy ystyriol o ffydd
  • wedi archwilio sut y gellir cynnwys cydraddoldeb wrth ddiwygio gwasanaeth cyhoeddus
  • wedi cwrdd â Chomisiynydd newydd y Comisiwn i Gymru.

 

Mae bod yn y gynhadledd yn rhad ac am ddim. Os hoffech neilltuo lle wnewch chi lenwi’r ffurflen ar-lein at EHRC Cymru
Fel arall, llenwch y ffurflen a atodwyd a’i hanfon mewn e-bost: wales@equalityhumanrights.com

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu hoffech drafod am y gynhadledd cysylltwch:  02920 447710.

Leave a Reply

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members