Dyfodol Anabledd Cymru yn y fantol

Ar ôl newid i drefniadau cyllid Llywodraeth Cymru, o 1 Ebrill 2016 bydd Anabledd Cymru yn colli 68% o’i incwm yn dilyn gwrthod ei gais i’r cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol trydydd sector cynaladwy, gan wynebu’r posibilrwydd o gau i lawr o fewn llai na pedwar mis.

Esboniodd Rhian Davies, prif weithredwraig Anabledd Cymru:

“Ers 1972 mae Anabledd Cymru wedi derbyn cyllid craidd gan adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn ei alluogi i gynrychioli barn ei aelodau gyda’r nod o hysbysu a dylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth. O ganlyniad mae’r corff wedi llwyddo i gael dylanwad ar faterion polisi ar ran yr aelodau, megis byw’n annibynnol, troseddau atgasedd a mynediad i’r stryd fawr, ynghyd â darparu cymorth a gwybodaeth ar gyfer cyrff pobl anabl ar draws y wlad.

 “Penderfynodd Llywodraeth Cymru newid trefniadau cyllid craidd cyrff trydydd sector wrth sefydlu cynllun grantiau cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol trydydd sector cynaladwy yn ei le. Roedd ffocws culach y grant ym maes darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn golygu nad oedd Anabledd Cymru bellach, fel corff ymbarel hawliau a chydraddoldeb, yn diwallu’r meini prawf cyllid.”

Dywedodd Wendy Ashton, cadeirydd Anabledd Cymru:

“Mae colli cyllid craidd Llywodraeth Cymru yn ergyd drom iawn, yn arbennig ar gyfnod pan mae pobl anabl, sy’n cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad, yn wynebu toriadau i fudd-daliadau a gwasanaethau.

Yn ei araith i gynhadledd flynyddol Anabledd Cymru ar 8 Hydref, fe wnaeth y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yr Athro Mark Drakeford AC dalu teyrnged i ‘effaith’ Anabledd Cymru ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles newydd. Yn ogystal, y ‘projectau cyffrous’ mae’n gweithredu, yn cynnwys datblygu mentrau cydweithredol dan arweiniad dinasyddion er helpu pobl anabl i reoli eu taliadau uniongyrchol.

Erbyn hyn mae pobl anabl yn cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad ac maent yn wynebu lefelau tlodi uwch nag unrhyw grŵp arall o bobl gyda nodweddion wedi’u diogelu, sefyllfa sy’n gwaethygu bob dydd yn dilyn toriadau i fudd-daliadau a gwasanaethau gan Lywodraeth San Steffan

Dywedodd Simon Green, ymgyrchydd anabl a chadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Penybont, ac aelod o Anabledd Cymru:

“Heb Anabledd Cymru, ni fydd cynrychiolydd cenedlaethol ym maes anabledd yn gallu cydlynu barn pobl anabl a’u cyrff ar draws y wlad.

“Rwy’n credu bydd yn cael effaith enfawr nid yn unig ar Anabledd Cymru ond ar bob grŵp mae’n cynrychioli, yn cynnwys Clymblaid Pobl Anabl Penybont. Rydym wedi elwa o fod yn aelod o’r corff cenedlaethol am sawl blynedd ac yn wir heb Anabledd Cymru mae’n debyg na fyddem yn bodoli.”

Ychwanegodd Rhian Davies:

“Mae Anabledd Cymru yn trafod pecyn cymorth byr dymor gyda Llywodraeth Cymru, tra’n edrych i drefnu ateb mwy hir dymor i’r sefyllfa. Ond, mae’r corff angen ymateb brys wrth i ni nesáu at y Nadolig a diwedd y flwyddyn ariannol! Ar ôl dros 40 blynedd fel llais cenedlaethol, mae llai na phedwar mis gennym i ddiogelu dyfodol Anabledd Cymru. Pwy fydd yn brwydro dros hawliau pobl anabl os na fydd y corff yn bodoli?”

Mae’r corff yng Nghaerffili yn wynebu dyfodol ansicr iawn.

*DIWEDD*

Golygyddion

  • Ymholiadau gan y cyfryngau

  • Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol cyrff pobl anabl sy’n hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pob person anabl.

  • Gwefan: www.disabilitywales.org                                                                                                twitter: @disabilitywales                                                                                                     facebook: https://www.facebook.com/disabilitywales/?fref=ts                                                 youtube: https://www.youtube.com/user/DisabilityWales

Leave a Reply

Become a member today and become part of what we do

Members